Milwyr yn ymarfer ar y Bannau
Mae milwr wedi dweud ei fod yn “gweld rhithiau” ac yn cael trafferth cerdded yn y gwres yn ystod ymarferiad SAS ym Mannau Brycheiniog yn 2013.

Roedd y milwr anhysbys yn rhoi tystiolaeth yn y cwest i farwolaethau tri o filwyr ym Mannau Brycheiniog ar un o ddiwrnodau poethaf mis Gorffennaf 2013.

Mae’r cwest eisoes wedi clywed bod y gwres wedi achosi i Craig Roberts, Edward Maher a James Dunsby gael eu taro’n wael yn ystod yr ymarferiad.

Roedd o leiaf saith o filwyr eraill wedi’u taro’n wael ar yr un diwrnod o ganlyniad i’r gwres llethol.

Dywedodd y milwr ei fod wedi tynnu allan o un cam o’r ymarferiad.

“Fy mhrif nod mewn gwirionedd oedd dychwelyd i fan ymgynnull lle’r oedd dŵr a meddyg.

“Ro’n i’n teimlo’n ddryslyd iawn ac ro’n i’n gweld rhithiau hefyd, felly do’n i ddim mewn cyflwr da iawn mewn gwirionedd.”

Dywedodd nad yw’n gwybod pam na wnaeth e roi gwybod i gyfarwyddwyr yr ymarferiad ei fod yn teimlo’n sâl.

Ar ôl cael ei asesu a’i dynnu allan o’r profion yn sgil cyngor meddygol, dywedwyd wrtho am fynd i gefn tryc, ond ni dderbyniodd driniaeth feddygol wedyn am hyd at dair awr.

Mae’r cwest yn parhau.