Jenny Rathbone AC
Mae Aelod Cynulliad wedi cael ei beirniadu’n hallt ar ôl postio neges ar Twitter oedd yn dangos “diffyg parch” i’r diweddar wleidydd Charles Kennedy.

Cafwyd llu o negeseuon a theyrngedau ddoe yn talu teyrnged i Charles Kennedy wedi’r newyddion bod cyn-arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol wedi marw yn 55 oed.

Ond mae Jenny Rathbone, yr Aelod Cynulliad Llafur dros Ganol Caerdydd, wedi dod o dan y lach ar ôl trydar neges oedd yn dweud bod marwolaeth y gwleidydd yn “ddiwedd trist i ddirywiad y Dems Rhydd.”

Beirniadaeth lem

Mae’r Aelod Cynulliad bellach wedi dileu’r neges, ond nid cyn i lawer o ddefnyddwyr y wefan gymdeithasol feirniadu ei geiriau’n llym, gan ei chyhuddo o geisio sgorio pwyntiau gwleidyddol.

“Mae troi marwolaeth drasig yn wleidyddiaeth yn gadael blas drwg yn y geg – yn enwedig oddi wrth Aelod Cynulliad,” meddai un defnyddiwr, Jamie Matthews.

“Nid yn unig yn hollol bleidiol, ond yn dangos diffyg parch llwyr,” oedd neges Dave Raybould, gydag eraill yn defnyddio geiriau fel “ansensitif”, “afiach” a “siomedig” i ddisgrifio neges Jenny Rathbone.

“Mae ceisio creu pwyntiau gwleidyddol allan o farwolaeth rhywun yn affwysol,” meddai llefarydd ar ran Democratiaid Rhyddfrydol Cymru.

“Mae’n siomedig gweld Aelod Cynulliad yn ymddwyn yn y ffordd yma ac mae’n dangos diffyg parch llwyr.”

‘Heb geisio pechu’

Dywedodd Jenny Rathbone ei bod hi wedi ei ddileu bellach am ei fod wedi “pechu” rhai pobl.

“Fe wnes i ei ddileu oherwydd mae’n debyg ei fod wedi pechu rhai. Nid dyna oedd y bwriad. Roedd Charles Kennedy yn wleidydd gwych oedd yn iawn ynglŷn ag Irac,” meddai’r Aelod Cynulliad.

Ond doedd hynny ddim yn ddigon i rai pobl, gyda mwy o ddefnyddwyr yn ateb y neges honno wrth ofyn pam nad oedd hi wedi ymddiheuro am y sylwadau.

“Mae hynny’n sylw afiach i’w wneud. Allwch chi ddim hyd yn oed gweld pam bod hyn wedi pechu pobl!” meddai Paul Halliday.