Ysgol Pentrecelyn, Rhuthun
Fe fydd ysgol Gymraeg Pentrecelyn ac ysgol ddwyieithog Llanfair Dyffryn Clwyd yn ardal Rhuthun yn cau, ac un ysgol newydd yn cael ei hadeiladu yn eu lle.

Cafodd argymhelliad i basio’r cynnig ei dderbyn gan gabinet Cyngor Sir Ddinbych mewn cyfarfod heddiw.

Roedd nifer o bryderon am yr effaith fyddai cau Ysgol Pentrecelyn, sydd a tua 30 o ddisgyblion, yn ei gael ar y Gymraeg yn yr ardal – gyda Chymdeithas yr Iaith a mudiad RhAG yn dweud y byddai cau’r ysgol yn mynd yn groes i ddymuniadau’r gymuned.

Ond clywodd aelodau’r cabinet y byddai rhieni di-Gymraeg yn anfon eu plant i ysgolion Saesneg yn Rhuthun petai hynny’n digwydd.

Mae’r cyfarfod yn parhau, lle bydd penderfyniadau’n cael eu gwneud ar gynigion i gau ysgolion eraill yn yr ardal.

Dywedodd llefarydd ar ran Ymgyrch Pantycelyn eu bod yn bwriadu cymryd camau cyfreithiol yn erbyn y penderfyniad a gwneud cais am adolygiad barnwrol.

‘Afresymol’

Wrth ymateb i’r newyddion dywedodd llefarydd Cymdeithas yr Iaith ar addysg Ffred Ffransis: Mae’r penderfyniad hwn mor afresymol; does dim rhesymeg iddo.

“Mae’n chwerthinllyd bod yr awdurdod lleol yn dadlau bod addysg ddwyieithog yn well i’r Gymraeg nag addysg Gymraeg.

“Hefyd, maen nhw’n ymgynghori ar gynnig nad yw’n bodoli eto. Felly, rydyn ni’n cefnogi’r rhieni yn eu hymdrech i geisio am adolygiad barnwrol, a byddwn ni’n ceisio codi arian tuag at eu costau cyfreithiol.”