Carwyn Jones
Mae Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones  wedi cyhoeddi y bydd camau disgyblu yn cael eu cymryd yn erbyn y rhai sydd yn gyfrifol am helynt ward iechyd meddwl Tawel Fan yn Ysbyty Glan Clwyd.

Roedd disgwyl i’r Gweinidog Iechyd Mark Drakeford wneud ei ddatganiad cyntaf am yr helynt yn y Senedd heddiw, ond cafodd ei dynnu nôl.

Yn hytrach na’r datganiad, mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu cefnogi cais gan y Ceidwadwyr i gynnal dadl yn y Senedd am broblemau’r ward. Bydd y ddadl yn cael ei chynnal yfory.

Yr wythnos diwethaf, cyhoeddwyd ymchwiliad annibynnol wnaeth ddarganfod “camdriniaeth sefydliadol” yn yr uned.

Roedd teuluoedd y cleifion oedrannus, rhai oedd yn dioddef o ddementia, yn dweud bod eu hanwyliaid yn cael eu trin fel anifeiliaid.

Mewn cyfweliad ar y Post Prynhawn heddiw, dywedodd Carwyn Jones y dylai penaethiaid Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr “ysgwyddo’r cyfrifoldeb” am yr hyn ddigwyddodd gan ddweud bod yr adroddiad yn “ddychrynllyd” a bod pobl wedi “colli ffydd” yn y bwrdd iechyd.

‘Digon yw digon’

Ar ben y camau disgyblu, mae’r AC Aled Roberts o’r Democratiaid Rhyddfrydol yn credu y dylid rhoi’r bwrdd iechyd mewn mesurau arbennig.

“Digon yw digon. Mae angen ymyrryd gyda rheolaeth y bwrdd iechyd diffygiol yma, ac mae’n rhaid ei roi mewn mesurau arbennig rŵan.

“Mae wedi dangos nad yw’n medru newid ei ffordd. Mae hi’n amser am newidiadau llym.”