Mae myfyrwyr sy’n galw am achub Neuadd Pantycelyn ar Faes Eisteddfod yr Urdd yng Nghaerffili yn cynnal ‘protest dawel’ tu allan i stondin Prifysgol Aberystwyth.

Nid yw’r 15 o fyfyrwyr yn gweiddi unrhyw sloganau oherwydd bod tâp trwchus ar eu cegau – a hynny yn symbol, medden nhw, nad oes ganddyn nhw lais yn y trafodaethau tros ddyfodol Neuadd Pantycelyn.

Wythnos yn ôl fe fu protestio yn Aberystwyth wedi i un o bwyllgorau’r Brifysgol argymell cau’r adeilad  fel neuadd breswyl – a hynny heb gynlluniau pendant i’w ail agor.

Dywedodd Llywydd UMCA, Jacob Ellis Dafydd:

“Maen nhw’n gwisgo tâp [ar eu cegau] heddiw i brofi nad yw’r Brifysgol yn gwrando ar eu lleisiau.

“Rydan ni wedi gweithio hefo nhw dros y flwyddyn ddiwetha’…ac fe roedd yr argymhellion yn glir – bod y neuadd yn ffit i aros ar agor.

“Rydan ni’n gobeithio y bydd uwch swyddogion y brifysgol yn gwrando.

“Mae Neuadd Pantycelyn wedi bod yn gartref i lawer iawn o fyfyrwyr. Mae pethau cenedlaethol wedi dechrau yno. Mae tua 160 o bobol wedi dewis byw eu bywydau trwy gyfrwng y Gymraeg. Does dim llawer o brifysgolion sy’n medru cynnig y profiad hwnnw.”