Mae Rhun ap Iorwerth wedi siarad  yn erbyn cynlluniau’r Grid Cenedlaethol i godi peilonau trydan newydd ar Ynys Môn.

Dywedodd Aelod Cynulliad yr ynys wrth brotestwyr ddoe fod “Môn yn gwrthwynebu’r peilonau newydd yn unfrydol” a bod yna “bryder gwirioneddol” am effaith weledol ac economaidd y peilonau ar ardal sydd yn “dibynnu cymaint ar dwristiaeth”.

Roedd y brotest, o flaen swyddfeydd Cyngor Sir Ynys Môn yn Llangefni, wedi ei threfnu gan grŵp ymgyrch sy’n gasgliad o gynghorwyr tref a chymuned yr ynys.

Danfonodd yr AS Llafur lleol, Albert Owen, neges o gefnogaeth i’r protestwyr hefyd gan ddweud y dylai’r Grid Cenedlaethol “gwrdd ag anghenion y gymuned leol ac ehangach”.

Cefndir

Mae’r ymgyrchwyr eisiau gweld y Grid Cenedlaethol yn gosod ceblau trydan tanfor yn hytrach na chodi rhagor o beilonau ar y tir i gludo trydan o atomfa niwclear newydd Wylfa i’r tir mawr.

Mae’r Grid Cenedlaethol wedi dweud eu bod yn “cydnabod fod pobl yn siomedig” gyda’r penderfyniad ond fod yn rhaid iddyn nhw gymryd cost trydan i ystyriaeth yn ogystal â barn pobl leol.

Gwrthwynebiad democrataidd

Mae’r grŵp ymgyrchu Unllais Cymru Môn yn honni fod y Grid wedi anwybyddu’r gwrthwynebiad i beilonau gan bawb a etholwyd yn ddemocrataidd i gynrychioli llais pobl Môn ers 2012.

Mae’r rheini’n cynnwys yr AS ac AC lleol, y Cyngor Sir a Chynghorau Tref a Chymuned, yn ogystal â 92% o bobl wnaeth ymateb i ymgynghoriad cyhoeddus y Grid Cenedlaethol yn erbyn codi rhagor o beilonau trydan.

Dywedodd cadeirydd Unllais Cymru Môn, Raymond Evans, nad yw’r Grid yn “deall beth yw  democratiaeth”.

Meddai: “Fel Cadeirydd Unllais Cymru Môn rwy’n cynrychioli 39 o gynghorau cymuned a thref ac rydym yn cydweithio gyda’r Cyngor Sir. Felly gyda’n gilydd rydym yn cynrychioli holl bobl Môn ac rydym wedi dweud ‘na’ wrth beilonau a ‘ie’ wrth geblau tanfor.

Ychwanegodd fod yn rhaid i’r Grid Cenedlaethol ddysgu ystyr y gair “democratiaeth” ac na fyddai croeso iddyn nhw ym Môn os na fyddan nhw’n gwrando ar y bobl leol.

Grid Cenedlaethol

Mae’r Grid Cenedlaethol eisoes wedi dweud fod rhaid iddyn nhw ystyried llawer o ffactorau megis yr amgylchedd, heriau peirianneg a chost, yn ogystal â barn y bobl leol.

Mae’r Grid yn credu eu bod wedi dewis “y cydbwysedd gorau rhwng yr holl ffactorau”, sef cysylltiad peilonau ar y tir ar draws Ynys Môn a chladdu’r ceblau o dan y Fenai.


Rhun ap Iorwerth yn annerch y protestwyr.