Aaron Hunter
Mae mam dyn 18 mlwydd oed fu farw mewn damwain ffordd ddydd Llun wedi talu teyrnged i’w “mab arbennig”

Bu farw Aaron Hunter, o Lanybydder mewn damwain ffordd rhwng pedwar car ger Peniel yn Sir Gaerfyrddin toc wedi hanner nos ddydd Llun.

Dywedodd ei fam, Nicola Hunter, fod Aaron yn “bleser” i’w deulu a’i ffrindiau.

Meddai Nicola Hunter: “Rydym ni fel teulu angen lle ac amser i alaru am fab anhygoel a ymunodd â ni yn yr amseroedd da, y drwg a’r hwyl. Bydd colled gan bawb ar ei ôl.”

Mae person arall fu farw yn y gwrthdrawiad wedi cael ei enwi’n lleol fel Curt Evans.

Mae Heddlu Dyfed Powys yn parhau i ymchwilio i’r gwrthdrawiad ac yn apelio ar unrhyw un a welodd y ddamwain, neu a welodd geir yn teithio ar yr A485 rhwng Peniel a Chaerfyrddin a’r A40 rhwng Abergwili a Phensarn rhwng tua 00:10 a 00:16 fore ddydd Llun 25 Mai, i gysylltu â nhw drwy ffonio 101.