Pont Werdd, Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro
Mae Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro ymysg y pum parc gorau yn y byd, yn ôl awdur o’r wefan teithio Condé Nast Traveller.

Mewn blog ar wefan yr Huffington Post, dywedodd Sarah Bruning bod “ffurfiannau godidog” i’w gweld o fewn ffiniau unig barc arfordirol Prydain yn Sir Benfro.

Y pedwar parc arall mae hi’n rhoi clod iddyn nhw yw Parc Cenedlaethol Northumberland a pharciau yn yr Eidal, Bwlgaria a Gwlad Groeg.

Nid dyma’r tro cyntaf i Arfordir Penfro ennill gwobr fyd-eang, gan i ddarllenwyr y cylchgrawn National Geographic Traveller bleidleisio am y parc fel yr ail ardal arfordirol orau yn y byd yn 2011.

Cydnabyddiaeth

“Mae marchogaeth yn weithgaredd poblogaidd i’r rheini sy’n ymweld ag unig barc cenedlaethol arfordirol y DU, sydd hefyd yn cynnwys nifer o ffurfiannau cenedlaethol godidog fel Pont Werdd Cymru,” meddai awdur y blog, Sarah Bruning.

Ychwanegodd Cadeirydd Awdurdod y Parc Cenedlaethol, y Cynghorydd Mike James: “Mae’n ffantastig bod tirwedd odidog Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro wedi cael ei chydnabod unwaith eto fel un o’r goreuon yn y byd.

“Mae hyn yn ychwanegu at y rhestr gynyddol o wobrau mae’r Parc Cenedlaethol wedi’u hennill dros y blynyddoedd diweddar a bydd yn rhoi hwb enfawr i’r ardal wrth i fusnesau baratoi ar gyfer hanner tymor y Sulgwyn a dechrau tymor yr haf.”