Protest Pantycelyn yn 2013
Mae Prifysgol Aberystwyth wedi cyfaddef bod “angen am fuddsoddiad hirdymor sylweddol a gwariant ychwanegol” i Bantycelyn, yn sgil pryderon am ddyfodol y neuadd breswyl.

Mewn cyfarfod ddoe fe gafodd cynrychiolwyr myfyrwyr Cymraeg y neuadd glywed bod gan y brifysgol gynlluniau i gau Pantycelyn ar gyfer blwyddyn academaidd 2015/16.

Wrth ymateb i bryderon a godwyd gan fyfyrwyr UMCA heddiw, dywedodd y brifysgol y byddan nhw’n “darparu llety addas” i’r myfyrwyr Cymraeg os oes angen cau’r neuadd.

Mae disgwyl i rai o swyddogion y brifysgol gyfarfod â’r myfyrwyr y prynhawn yma er mwyn trafod y mater ymhellach.

Ond mae rhai myfyrwyr eisoes wedi dechrau paratoi posteri a baneri, gan awgrymu eu bod yn paratoi ar gyfer rhagor o brotestio ynglŷn â dyfodol y neuadd.

“Rhaid cael llety penodol”

Mewn datganiad heddiw fe ddywedodd Prifysgol Aberystwyth eu bod nhw’n bendant o’r farn bod “rhaid cael llety penodol ar gyfer myfyrwyr Cymraeg eu hiaith yn y Brifysgol”.

Ond mae adroddiad gan Weithgor y brifysgol, sydd wedi cydnabod bod angen adnewyddu adeilad Pantycelyn, wedi argymell ei chau ar gyfer y flwyddyn academaidd nesaf.

Bydd cyfarfod o Bwyllgor Cyllid a Strategaeth y Brifysgol ar Ddydd Gwener 22 Mai yn ystyried yr argymhellion hynny ac yn penderfynu dyfodol y neuadd breswyl.

“Yn sgil yr angen am fuddsoddiad hirdymor sylweddol a gwariant ychwanegol yn y tymor byr er mwyn bod Pantycelyn yn parhau fel neuadd breswyl tu hwnt i Fehefin 2015, bydd y Pwyllgor hefyd yn ystyried cynnig i beidio â darparu llety myfyrwyr yno o Fedi 2015, ac yn ystyried defnydd amgen i Bantycelyn a fyddai yn cynnwys gweithgareddau iaith a diwylliant cyfrwng Cymraeg,” meddai datganiad Prifysgol Aberystwyth.

“Os bydd y cynnig i beidio â pharhau i ddefnyddio’r Neuadd fel neuadd breswyl myfyrwyr y tu hwnt i ddiwedd y tymor yn cael ei gymeradwyo, bydd y Brifysgol yn gweithio gydag UMCA a chynrychiolwyr y myfyrwyr i ddarparu llety addas arall o fis Medi 2015.”

Ychwanegodd y brifysgol y byddan nhw’n parhau i sicrhau llety i bob myfyriwr yn y flwyddyn gyntaf ac yn sicrhau, petai’r neuadd yn cau, bod llety arall yn y Brifysgol ar gael i’r rheiny oedd eisiau aros ym Mhantycelyn.

Cymuned “fregus”

Yn dilyn y cyfarfod ddoe pan gafodd yr argymhellion eu crybwyll i’r myfyrwyr am y tro cyntaf, dywedodd Llywydd UMCA, Miriam Williams na ddylai’r angen am waith adnewyddu olygu gorfod cau’r neuadd.

“Rydyn ni’n gwrthwynebu’n llwyr unrhyw gam i gau Pantycelyn yn ystod y flwyddyn academaidd. Dylai gwaith adnewyddu’r Neuadd ddigwydd yn ystod y gwyliau, heb unrhyw doriad o ran defnydd o’r adeilad fel llety myfyrwyr,” meddai Miriam Williams.

“Yn dilyn ymgyrch hir gan fyfyrwyr Cymraeg Aberystwyth fe ymrwymodd awdurdodau’r Brifysgol y llynedd i gadw Pantycelyn ar agor.

“Galwn ar awdurdodau’r Brifysgol i beidio mynd yn ôl ar eu gair ynghylch y sefydliad cenedlaethol pwysig yma, gan ystyried fod y swm sydd angen ei wario ar adnewyddu’r Neuadd yn fychan iawn yng nghyd-destun gwariant blynyddol y Brifysgol.

“Mae’r gymuned Gymraeg yn fregus ac mae angen ei diogelu, nid ei difrodi. Galwn ar y Pwyllgor Cyllid a Strategaeth yfory i dderbyn argymhelliad Gweithgor Dyfodol Pantycelyn, ac i wrthod cynlluniau uwch swyddogion i gau’r Neuadd am unrhyw gyfnod o amser.”

Ymddygiad “twyllodrus”

Mae Cymdeithas yr Iaith hefyd wedi ymateb i’r bygythiad diweddaraf i ddyfodol Neuadd Pantycelyn, gan gyhuddo Prifysgol Aberystwyth o fod yn “dwyllodrus”.

“Mae ymddygiad y Brifysgol yn dwyllodrus, ac yn codi cwestiynau difrifol am broffesiynoldeb a gonestrwydd eu swyddogion,” meddai Ffred Ffransis, llefarydd addysg Cymdeithas yr Iaith Gymraeg.

“Yn groes i ewyllys y myfyrwyr a phobl Cymru, mae Prifysgol Aberystwyth yn parhau i geisio ei chau fel llety i fyfyrwyr. Ddylen nhw ddim cael gwneud hynny; a wnawn ni ddim gadael iddyn nhw wneud hynny chwaith. 

“Dylai fod ymchwiliad allanol i’r modd y mae’r penderfyniad yn cael ei wneud cyn i’r Brifysgol gymryd unrhyw gamau pellach.

“Mae Llywodraeth Cymru wedi gwneud creu canolfannau iaith yn flaenoriaeth iddo – does dim canolfan Gymraeg bwysicach na Phantycelyn.”