Tafwyl
Mae Gŵyl Tafwyl yn ôl eto eleni, ac mae’r actor Hollywood, Mathew Rhys, sy’n wreiddiol o Gaerdydd, yn annog pobl i wirfoddoli i’r ŵyl sy’n cael ei chynnal yng ngerddi Castell Caerdydd ynghanol y brifddinas.
Bydd yr ŵyl yn cael ei chynnal dros ddau ddiwrnod eleni sef dydd Sadwrn a Sul, 4 a 5 Gorffennaf.
Mae Mathew Rhys yn annog pobl i gefnogi’r Ŵyl fel yr eglurodd: “Rydym yn disgwyl dros ugain mil o ymwelwyr eleni ac yno i’w croesawu fe fydd gwirfoddolwyr brwdfrydig. Os hoffech chi stiwardio inni, mi fydd pob gwirfoddolwr yn derbyn crys-t Tafwyl a thocyn bwyd a diod – pa ffordd well o fwynhau a chefnogi’r ŵyl?”
Bydd Ywain Gwynedd, Kizzy Crawford, Swnami a Gwenno ymhlith y bandiau yn diddanu ar y Brif Lwyfan dydd Sadwrn, gyda Geraint Jarman, Candelas, HMS Morris a Cowbois Rhos Botwnnog yn ymuno â’r wyl ar ddydd Sul.
Draw ar y llwyfan acwstig, Meic Stevens, Gentle Good, Sorella, Gwyneth Glyn a Huw M fydd ymhlith y cerddorion. Eto eleni mae mynediad i’r ŵyl yn rhad ac am ddim.
Yn ôl un o’r trefnwyr, Rhodri Trefor: “Mae’r cyfleoedd i wirfoddoli’n Gymraeg yng Nghaerdydd yn gymharol brin, felly dyma gyfle gwych i fod yn rhan ganolog o ŵyl fwyaf cyffrous y brifddinas, yn ogystal â chynnig profiad gwaith, cyfle i ymarfer eich Cymraeg a chyfle prin i wirfoddoli’n Gymraeg yng Nghaerdydd.”
Fel diolch i wirfoddolwyr am eu gwaith, mae’r trefnwyr wedi cyhoeddi y byddant yn derbyn taleb o £10 ar gyfer bwyd i’w wario yn Bankok Cafe (Thai), Ffwrnes (Pizza), Grazing Shed (Byrgyrs), Onest (Bwyd iach), Parsnipship (llysieuol), Welsh Creperie neu yn Meat and Greek (bwyd Groegaidd).
Bydd y gwirfoddolwyr yn darparu crys-t Tafwyl, byrbrydau bach a diod feddal yn ystod y sifft.
Am ragor o wybodaeth ar sut i wirfoddoli, ceir y manylion yma