Mae Prif Weithredwr Clwb Criced Morgannwg, Hugh Morris wedi cyfaddef fod dyledion y clwb yn “anghynaladwy”.
Daw’r sylwadau wedi i un o bwyllgorau Cyngor Caerdydd benderfynu bwrw ymlaen gyda’u cynlluniau i ddileu rhan o ddyled y clwb.
Roedd cyn-arweinydd y Cyngor, Russell Goodway wedi “galw i mewn” y penderfyniad i ddileu £4.4 miliwn o ddyled – tua 70% o’r ddyled lawn.
Pryderon Russell Goodway
Yn ystod cyfarfod y Pwyllgor Adolygu Polisi a Pherfformiad neithiwr, mynegodd Goodway bryder ynghylch y dyfododol a diffyg presenoldeb o blith y Cyngor ar fwrdd rheoli Clwb Criced Morgannwg.
Dywedodd fod ymateb negyddol wedi bod i’r penderfyniad o du’r cyhoedd, a bod nifer o gwynion wedi cael eu cyflwyno.
Dywedodd ei bod yn anodd cyfiawnhau’r penderfyniad pan fo cymaint o doriadau’n cael eu gwneud gan y Cyngor, a bod angen gwneud mwy i ddiogelu arian trethdalwyr.
Yn ogystal, dywedodd y dylai’r mater fod wedi cael ei gyflwyno gerbron y pwyllgor craffu cyn mynd i’r Cabinet llawn.
Ond cafodd ei apêl i wyrdroi’r penderfyniad ei gwrthod gan y pwyllgor.
Y cefndir
Ar Fawrth 19, daeth cadarnhad fod y Cyngor, ynghyd â’r Allied Irish Bank a chyn-gadeirydd y clwb, Paul Russell wedi cytuno i ddileu dyledion gwerth £4.4 miliwn.
Derbyniodd y clwb fenthyciad gwreiddiol gan y Cyngor yn 2006 er mwyn cynnal criced rhyngwladol yn Stadiwm Swalec, ac ail fenthyciad yn ddiweddarach tuag at gostau cynnal a chadw’r stadiwm.
Roedd eu benthyciadau eraill yn cynnwys £7.2 miliwn gan AIB a £2.4 miliwn gan Paul Russell.
Pe bai’r clwb yn mynd i drafferthion ariannol difrifol – oedd yn edrych yn debygol iawn y llynedd – y flaenoriaeth fyddai ad-dalu’r AIB cyn y benthycwyr eraill, sy’n golygu ei bod hi’n annhebygol y byddai’r Cyngor wedi derbyn y rhan fwyaf o’i arian yn ôl.
Mae’r clwb wedi dod i gytundeb sy’n golygu bod cyfanswm eu dyled i’r tri benthycwr ychydig o dan £5 miliwn bellach – sy’n sylweddol is na’r £16 miliwn o ddyled roedd y clwb yn ei wynebu ddiwedd 2014.
Ymateb Morgannwg
Mewn datganiad heddiw, dywedodd Prif Weithredwr Clwb Criced Morgannwg, Hugh Morris fod y clwb wedi ymrwymo i sicrhau ei ddyfodol ariannol yn y tymor hir.
“Rydyn ni wedi cyflawni uchelgais y Clwb o gynnal cyfres o gemau rhyngwladol ag iddyn nhw broffil uchel ond mae’r buddsoddiad yn y lleoliad wedi ein gadael ni gyda lefel anghynaladwy o ddyled.
“Mae parhau i fwynhau manteision cynnal y gemau mwyaf tra’n cydbwyso buddsoddiad yn ein tîm proffesiynol, ein lleoliad a’n rhaglenni cymunedol yn hollol bosib os caiff y ddyled ei chlirio.
“Dydy ceisio dileu dyled ddim yn rhywbeth rydyn ni’n falch ohono ond y gwir amdani yw ei fod yn hollol angenrheidiol os ydyn ni am symud ymlaen.
“Mae’n ddyletswydd arnon ni i raddau helaeth iawn i ail-ystyried sut fyddwn ni’n cydweithio â chefnogwyr criced, y gymuned fusnes, ein partneriaid yn y sector cyhoeddus a phobol leol i wneud Caerdydd a Chymru’n falch o’u clwb criced.
Roedd Hugh Morris yn un o nifer o gynrychiolwyr y Clwb oedd yn bresennol yn y cyfarfod neithiwr, ynghyd â’r Cadeirydd Barry O’Brien, y Trysorydd Hamish Buckland a’r ymgynghorydd ariannol Simon White.
Ychwanegodd Barry O’Brien: “Mae canlyniad y broses hon yn hollbwysig i’n hamcan ni o sicrhau sefydlogrwydd ariannol yn y tymor hir.
“Mae cynnal gemau rhyngwladol yng Nghaerdydd o fudd mawr i economi Cymru ac mae’n gosod ein dinas a’r genedl ar lwyfan byd-eang gerbron cynulleidfa o filiynau o bobol.
“Rydyn ni wedi gweithio’n galed i sicrhau ein henw da am gynnal gemau mawr yn llwyddiannus ac rydym yn llwyr fwriadu dod â rhagor o gemau i Forgannwg i gael hyd yn oed mwy o effaith economaidd, datblygu ein henw da a chreu gwaddol gymunedol i’r ddinas.”
Ymateb y Cyngor
Dywedodd y Cynghorydd Graham Hinchey o Gyngor Caerdydd: “Roedd hwn yn benderfyniad anodd o’r cychwyn cyntaf.
“Nododd cyngor annibynnol gan Deloittes y byddai’r clwb criced mewn perygl difrifol o fynd i ddwylo’r gweinyddwyr pe na bawn yn lleihau’r benthyciad gan 70 y cant, ac y byddem yn annhebygol o adennill unrhyw ran ohono.
“Gallai hynny fod wedi bod yn ddiwedd ar y clwb a diwedd y manteision mae’n eu cynnig i’r ddinas. Mae’r gemau prawf a gemau’r Lludw wedi codi proffil Caerdydd ledled y byd ac mae eu gwerth i’r economi leol – yr arian sy’n cael ei wario mewn gwestai, siopau, bariau a bwytai lleol – yn anferthol o ran cyllid a marchnata.
“Does neb eisiau gweld ceiniog o arian y trethdalwyr yn cael ei gwastraffu.
“Yn y cyfarfod craffu neithiwr dywedais y byddwn yn hapus i ystyried unrhyw argymhelliad gan y Pwyllgor Craffu a’i gyflwyno gerbron y Cabinet.
“Fodd bynnag, ar ôl clywed y dystiolaeth lawn gan y Clwb ac Allied Irish Bank, deallai’r Pwyllgor Craffu yr anawsterau yr oeddem yn eu hwynebu i ddod i’r penderfyniad hwn, gan benderfynu peidio â gofyn i’r Cabinet ailystyried.
“Gan symud ymlaen, gobeithiwn y bydd y Clwb yn tyfu ac yn llewyrchu ac y bydd y Cyngor yn adennill yr arian sy’n ddyledus iddo. Mae’n bwysig cofio, fel rhan o’r lleihad hwn yn y benthyciad, y cawn rywfaint o fuddion anariannol gan gynnwys y defnydd o gyfleusterau Stadiwm Swalec.
“Petai’r Clwb wedi dod i ben, ni fyddai gennym unrhyw gyfle o adennill unrhyw arian, a byddem wedi colli un o brif sefydliadau chwaraeon Cymru a sefydlwyd ym 1888, unig Glwb Criced Prawf Cymru.”