Cyflwynwyr Sgorio
Mae S4C wedi cadarnhau y bydd eu gêm fyw o Uwch Gynghrair Cymru ar raglen Sgorio yn symud nôl i nos Sadwrn y tymor nesaf.

Cafodd y gêm fyw ei symud i brynhawn dydd Sul ar gyfer y tymor yma i gyd-fynd â rhaglen chwaraeon Clwb, sydd hefyd wedi bod yn dangos gemau rygbi byw.

Ond o fis Awst ymlaen fe fydd Sgorio yn dychwelyd i ddydd Sadwrn, gyda’r gemau byw o Uwch Gynghrair Cymru, Cwpan Cymru a’r Cwpan Word yn dechrau am 5.15 o’r gloch.

Mae’r sianel hefyd wedi cadarnhau, fodd bynnag, eu bod nhw dal yn bwriadu darlledu rhaglen Clwb, fydd yn dangos amrywiaeth o chwaraeon o Gymru, ar brynhawniau Sul.

“Wrth wraidd yr amserlen”

Bydd rhaglen Sgorio ar nos Sadwrn yn dechrau am 4.45yp, gan gynnwys newyddion chwaraeon y dydd, ac fe fydd y rhaglen uchafbwyntiau o La Liga yn Sbaen yn parhau am 6.30yh ar nos Lun.

Wrth gyhoeddi’r newid, dywedodd golygydd chwaraeon S4C Sue Butler y byddai symud y gemau yn ôl i nosweithiau Sadwrn yn gwneud darlledu pêl-droed yn greiddiol i’r sianel.

“Mae S4C yn falch iawn o allu cefnogi pêl-droed Cymru,” meddai Sue Butler.

“Rydym wedi gweithio’n agos gyda’r Gymdeithas Bêl-droed ac Uwch Gynghrair Cymru i ddatblygu’r ddarpariaeth ar gyfer y gystadleuaeth wych hon ac rydym yn edrych ymlaen at osod ein pencampwriaeth bêl-droed genedlaethol wrth wraidd amserlen nos Sadwrn y sianel.

“Mae rhoi llwyfan cenedlaethol teilwng i bêl-droed Cymru yng nghartrefi pobl Cymru yn cyfrannu at lwyddiant y gêm yn y dyfodol, yn ogystal â chynnig adloniant pwysig fel rhan o’r amrywiaeth o raglenni ar S4C.”

Ychwanegodd prif weithredwr Cymdeithas Pêl-droed Cymru, Jonathan Ford, ei fod yn “croesawu’r datblygiad” gan ddweud y byddai’n “hybu proffil ein Cynghrair Cenedlaethol ymhellach”.

“Rydym yn ddiolchgar iawn i S4C am eu cefnogaeth selog i bêl-droed domestig yng Nghymru ac rydym yn hyderus y bydd y slot nos Sadwrn newydd yn denu cefnogwyr newydd i wylio Uwch Gynghrair Cymru,” meddai Jonathan Ford.