Neuadd Pantycelyn ym Mhrifysgol Aberystwyth
Mae Prifysgol Aberystwyth wedi dweud eu bod yn “bryderus a siomedig” ar ôl i ddwy gwningen farw gael eu darganfod mewn ystafell ymolchi yn Neuadd Pantycelyn.

Yn ôl adroddiad gwasanaeth cyfryngau myfyrwyr y brifysgol, Aber Student Media (ASM), roedd porthorion wedi canfod yr anifeiliaid marw mewn cawod ac roedd gwaed ar draws y coridor y tu allan.

Mae’n ymddangos bod llun hefyd wedi cael ei bostio ar Facebook yn dangos dyn mewn bath yn dal cwningen wedi marw.

Mewn datganiad mae Prifysgol Aberystwyth wedi dweud bod cam-drin anifeiliaid a chreu difrod i eiddo’r Brifysgol “yn hollol annerbyniol”, ac mae undeb myfyrwyr UMCA hefyd wedi beirniadu’r sawl sydd yn gyfrifol.

‘Gwaed yn y coridor’

Dywedodd ffynhonnell anhysbys wrth ASM bod staff wedi canfod gwaed ar hyd coridor yn y neuadd breswyl, ac wedi dilyn yr olion i’r ystafell ymolchi ble daethon nhw o hyd i’r cwningod marw.

Roedd gwaed y cwningod ar draws yr ystafell ymolchi, yn ôl adroddiadau, ac mae’n debyg bod awdurdodau’r brifysgol bellach wedi gweld lluniau o’r difrod.

Yn ôl aelod o staff o Undeb y Myfyrwyr, oedd ddim am gael eu henwi, fe fu digwyddiad tebyg arall yn ddiweddar pan gafwyd hyd i gwningen farw mewn peiriant golchi ger y neuadd.

Dyw Heddlu Dyfed Powys ddim wedi derbyn unrhyw alwadau yn ymwneud a’r digwyddiadau ond mae Prifysgol Aberystwyth eisoes wedi dweud  eu bod nhw’n paratoi i gymryd camau disgyblu.

“Hollol annerbyniol”

Mewn datganiad fe ddywedodd Prifysgol Aberystwyth eu bod yn pryderu’n fawr ynglŷn â’r adroddiadau am rai o’i myfyrwyr.

“Mae’r Brifysgol yn pryderu ac yn siomedig gan yr ymddygiad gwrthgymdeithasol y sonnir amdano gan rai o drigolion Pantycelyn,” meddai llefarydd ar ran y brifysgol.

“Mae niweidio honedig o anifeiliaid, a dinistrio eiddo’r Brifysgol, yn gwbl annerbyniol.

“Mae Prifysgol Aberystwyth yn falch o fod yn un o’r llefydd mwyaf diogel i fod yn fyfyriwr yn y Deyrnas Gyfunol , ac mae’r math hwn o ymddygiad yn eithriadol o brin yn ein cymuned.

“Mae’r Brifysgol yn cynnal ymchwiliad trylwyr o’r digwyddiadau y sonnir amdano yn Neuadd Pantycelyn ac yn barod i gychwyn achos disgyblu fel y bo’n briodol.

“Mae’r Brifysgol yn annog unrhyw un sydd ag unrhyw wybodaeth am y honiadau hyn i ddod ymlaen a chynorthwyo gyda’r ymchwiliadau hyn.”

Ychwanegodd y llefarydd bod y brifysgol wedi eu “tristau gan gweithredoedd dinistriol yr unigolion hyn”, gan ddweud na fyddan nhw’n gwneud sylw pellach ar y mater.

Cydweithio â’r brifysgol

Dywedodd Llywydd Undeb Myfyrwyr Cymraeg Aberystwyth, Miriam Williams, eu bod yn gweithio gyda’r brifysgol er mwyn canfod pwy oedd yn gyfrifol.

Ond fe bwysleisiodd na ddylai gweithredoedd ambell i unigolyn treisgar adlewyrchu ar breswylwyr eraill y neuadd, sydd yn gartref i nifer o Gymry Cymraeg y brifysgol.

“Dydyn ni ddim yn hapus o gwbl gyda’r ymddygiad diweddar yma ym Mhantycelyn,” meddai Llywydd UMCA Miriam Williams.

“Hoffwn bwysleisio mai unigolion sydd yn gyfrifol am y digwyddiadau yma, a dydi hyn yn ddim i’w wneud â’r mwyafrif helaeth o breswylwyr y neuadd.

“Rydym ni’n cydweithio â swyddogion y brifysgol er mwyn canfod pwy sydd yn gyfrifol am hyn.”