Danny Jones
Fe fydd tîm rygbi’r gynghrair Keighley yn herio Cymru mewn gêm arbennig er cof am Danny Jones, fu farw yn dilyn trawiad ar y galon yn ystod gêm.
Bydd yr ornest yn cael ei chynnal ar Barc Cougar yn Keighley ar Hydref 25 a’r elw’n mynd i efeilliaid pum mis oed Danny Jones.
Dywedodd prif hyfforddwr Cymru, John Kear fod ymateb positif iawn i’r syniad o gynnal yr ornest, a’r chwaraewyr wedi cynnig chwarae heb dderbyn tâl.
Bu farw Danny Jones yn ystod gêm adran gyntaf rhwng Keighley a Skolars Llundain ar Fai 3.
Eisoes, mae £124,000 wedi cael ei godi trwy dudalen Justgiving a gafodd ei sefydlu gan yr awdurdod sy’n rheoli rygbi’r gynghrair.
Y gobaith yn y pen draw yw codi £1 miliwn.
Ymddangosodd Danny Jones yng nghrys Cymru am y tro olaf yn ystod Cwpan Rygbi’r Byd yn 2013.
Dywedodd John Kear: “Fe fu ymateb anhygoel.
“Mae’r chwaraewyr i gyd wedi rhoi eu dwylo i fyny ac wedi cytuno i chwarae’n rhad ac am ddim.
“Roedd Danny yn boblogaidd iawn ymhlith carfan Cymru.”
Mae’r ornest yn ddibynnol ar ganiatâd yr awdurdodau rygbi.