Bae Abertawe
Mae ffigurau twristiaeth yn dangos cynnydd sylweddol yn nifer yr ymwelwyr a ddaeth i Fae Abertawe yn 2014.
Cafodd 63.4% o lefydd hunanarlwyo eu llenwi yn ystod y flwyddyn, sy’n cyfateb i gynnydd o 19% ers y flwyddyn gynt.
Roedd cynnydd o 35% yn y llefydd a gafodd eu llenwi mewn gwestai a llety gwely a brecwast (60% ar gyfer 2014).
Roedd cyfartaleddau Abertawe’n uwch na chyfartaleddau Cymru gyfan – 53.5% ar gyfer hunanarlwyo a 43.6% ar gyfer gwestai a llety gwely a brecwast.
Cafodd 90% o lefydd hunanarlwyo eu llenwi yn yr ardal ym misoedd Gorffennaf ac Awst y llynedd.
Roedd y cyfartaledd ar gyfer mis Hydref yn uwch na 66%, a hynny’n bennaf o ganlyniad i Ŵyl Dylan Thomas ar achlysur canmlwyddiant ei eni.
‘Ymgyrchoedd marchnata arloesol’
Dywedodd y Cynghorydd Robert Francis-Davies, sydd â chyfrifoldeb am fenter, datblygiad ac adfywio: “Mae ein tîm twristiaeth yn parhau i ddatblygu ymgyrchoedd marchnata arloesol ac yn cydweithio’n galed â darparwyr llety, busnesau twristiaeth a sefydliadau twristiaeth eraill i godi proffil Bae Abertawe fel cyrchfan i dwristiaid.
“Gyda’n gilydd, rydym yn gwella ar brofiadau ymwelwyr a chroesawu pobol wrth iddyn nhw gyrraedd.
“Mae Cynllun Rheoli Cyrchfan sydd bellach mewn grym yn golygu bod y gwaith partneriaeth hwn wedi’i gydlynu’n fwy effeithiol nag erioed wrth i ni geisio adnabod meysydd i’w gwella ac i roi hwb i ddiwydiant sydd eisoes yn cyfrannu mwy na £360 miliwn y flwyddyn i economi Bae Abertawe.”