Bydd yn rhaid i Lywodraeth Cymru osod targed i sicrhau gostyngiad o fwy na 80% mewn allyriadau nwyon tŷ gwydr erbyn 2050, o dan gyfraith newydd i wella’r ffordd y mae Cymru’n rheoli ei hadnoddau naturiol.

Mae Bil yr Amgylchedd (Cymru) yn cynnig gosod  targedau  ar gyfer lleihau allyriadau a charbon rhwng 2016 a 2050 hefyd – y ddeddfwriaeth gyntaf o’r fath yn y Deyrnas Unedig.

Bydd y Bil newydd yn gofyn i fusnesau, ysgolion ac ysbytai wahanu gwahanol fathau o ailgylchu erbyn 2017.

Er mai Cymru sydd ar y blaen yn y DU o ran ailgylchu gwastraff, dywed y Llywodraeth bod deunyddiau y gellid eu hailgylchu’n dal i gael eu hanfon i safleoedd tirlenwi neu i losgyddion ac mae peth gwastraff bwyd yn mynd i mewn i’r carthffosydd o hyd.

Newidiadau

Ymysg prif bwyntiau’r gyfraith newydd mae:

  • Ymestyn pwerau Gweinidogion Cymru fel eu bod, yn ogystal â chodi tâl am fagiau siopa untro, yn gallu codi tâl am fathau eraill o fagiau siopa e.e. bagiau am oes;
  • gosod dyletswydd ar fanwerthwyr i roi’r enillion net o werthiant y bagiau siopa i achosion da;
  • Ei gwneud yn ofynnol i Gyfoeth Naturiol Cymru gyhoeddi adroddiad pob pum mlynedd i nodi cyflwr a maint adnoddau naturiol Cymru;
  • Rhoi pwerau i Lywodraeth Cymru weithredu i godi’r lefelau ailgylchu, gwella’r dulliau o drin gwastraff bwyd ac adfer ynni;
  • Gofyn i fusnesau, ysgolion ac ysbytai wahanu gwahanol fathau o ailgylchu erbyn 2017.

Trefn gliriach

Mae’r Bil hefyd yn sefydlu trefn gliriach ar gyfer nifer o weithdrefnau rheoleiddiol gan gynnwys trwyddedu morol, rheoli pysgodfeydd cregyn, draenio tir a rheoli perygl llifogydd.

“Bydd y Bil hwn yn sicrhau bod y penderfyniadau a wnawn mewn perthynas â’n hadnoddau naturiol yn cefnogi ein heconomi, ein cymunedau a’n hamgylchedd,” meddai Gweinidog yr Amgylchedd Carl Sargeant.

“Bydd yn ein helpu ni i reoli ein hadnoddau naturiol mewn ffordd a fydd yn dod â manteision hirhoedlog, heddiw ac i genedlaethau’r dyfodol.”