Kirsty Williams
Mae arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru Kirsty Williams a’i swyddog cyfatebol yn yr Alban, Willie Rennie, wedi datgan eu cefnogaeth i Tim Farron fel arweinydd newydd y blaid.

Yn dilyn “canlyniad erchyll” yn yr etholiad cyffredinol – lle collwyd 49 o seddi – mae aelodau’r blaid yn gobeithio penodi arweinydd newydd i olynu Nick Clegg ar frys.

Dywedodd Kirsty Williams a Willie Rennie mewn datganiad ar y cyd: “Roedd y canlyniad yn erchyll i’r Democratiaid Rhyddfrydol. Mae ein poen yn cael ei leddfu ychydig trwy wybod bod ein datblygiadau mewn llywodraeth yn parhau.

“Ond er gwaethaf ein colled, mae’r blaid yn optimistaidd, gobeithiol ac yn hyderus am yr hyn y gallwn ei wneud ar ran Prydain.”

‘Ail-adeildau’r blaid’

Ychwanegodd y ddau: “Mae’n rhaid i ni ennill yr hawl i gael pobol i wrando arnom ni eto.

“Gyda hynny mewn ystyriaeth, rydym yn cefnogi Tim Farron i sefyll fel ein harweinydd – rydym yn credu mai fo yw’r person gorau i ail-adeiladu ein plaid.”

Mae’r Guardian yn adrodd bod disgwyl i’r gystadleuaeth am yr arweinydd nesa’ fod rhwng Tim Farron a Norman Lamb.