Canolfan Saith Seren
Mae ymgyrch i achub canolfan Gymraeg Wrecsam Saith Seren wedi cyrraedd ei nod a’r gobaith yw y bydd y ganolfan yn aros ar agor, cyhoeddodd y trefnwyr.

Dywedodd Aran Jones o SaySomethinginWelsh.com fod yr ymgyrch wedi sicrhau addewidion o £3,000 y mis gan unigolion a chwmnïau.

Yn ogystal â hynny, mae gwerth £10,000 o gyfraniadau unigol wedi’u casglu.

Cafodd yr ymgyrch ei lansio pedair wythnos yn ôl pan gyhoeddodd rheolwyr Saith Seren bod yn rhaid cau’r adeilad ddiwedd mis Mai oherwydd diffyg cyllid.

Diolch

Meddai Aran Jones: “Diolch o waelod calon i bawb sydd wedi gweithio mor galed i ymledu’r gair, i argraffu posteri, i rannu ffurflenni tanysgrifio, i sgwennu at y cyfryngau, i siarad gyda phobol leol.

“Mae wedi bod yn ymgyrch rhyfeddol o lwyddiannus, sydd yn dangos yn glir faint o bobol, mewn faint o lefydd, sydd yn edmygu popeth mae Saith Seren wedi cyflawni hyd yma.

“Hir oes i’r ganolfan.”

Bydd aelodau o Fwrdd y ganolfan yn cwrdd nos Fawrth i drafod y camau nesa’.