Heroin
Mae’r heddlu wedi arestio pum dyn a thair menyw wedi i gyffuriau gwerth £15,000 gael eu darganfod yn Abertawe.

Mewn cyrch ar 6 Mai, fe wnaeth yr heddlu ddarganfod heroin a chocên mewn tŷ yn y ddinas.

Mae dyn a dynes wedi cael eu rhyddhau ar fechnïaeth wrth i ymchwiliadau’r heddlu barhau.

Gofynnir i unrhyw un a gwybodaeth i gysylltu â’r heddlu ar 101.