Liz Saville-Roberts
Mae mwy o ferched nag erioed wedi cael eu hethol fel Aelodau Seneddol eleni.

Cafodd tua 190 o ferched eu hethol yn yr etholiad ar 7 Mai sy’n golygu bod bron i draean o’r seddi wedi’u hennill gan ymgeiswyr benywaidd.

Mae’n gynnydd mawr o’r 148 gafodd eu hethol, o’r 650 o seddi, yn 2010.

Er bod y ffigwr wedi codi, mae pryderon nad yw’n wir adlewyrchiad o’r boblogaeth.

Yng Nghymru, Aelod Seneddol Dwyfor Meirionydd, Liz Saville Roberts, oedd y fenyw gyntaf mewn hanes i gael ei hethol ar ran Plaid Cymru.  Mae hi’n olynu Elfyn Llwyd a gyhoeddodd y llynedd na fyddai’n sefyll fel AS yn yr etholiad cyffredinol.

“Mae’n fraint aruthrol cael bod yn AS benywaidd cyntaf fy mhlaid ond ni allaf aros i ddechrau a gweithio’n galed er budd fy etholaeth a phobl Cymru,” meddai Liz Saville-Roberts.