Mae’r Ceidwadwyr wedi cael noson “ragorol” wrth i ganlyniadau’r etholiad cyffredinol ddangos eu bod nhw’n agos i allu sicrhau mwyafrif annisgwyl.

Dyna farn Felix Aubel, aelod blaenllaw o’r blaid fu’n gwylio drwy gydol y nos wrth i’r Ceidwadwyr gipio tair sedd yng Nghymru a dal pob un oedd ganddyn nhw cynt.

Gyda rhai canlyniadau yng ngweddill Prydain dal heb eu cyhoeddi, mae’n ymddangos y bydd David Cameron yn ffurfio llywodraeth fwyafrifol, rhywbeth na wnaeth unrhyw un o’r polau ddarogan cyn ddoe.

“Canlyniad gwbl ragorol i’r Blaid Geidwadol, ymhell tu hwnt i fy nisgwyliadau i,” meddai Felix Aubel wrth Golwg360.

“Yng Nghymru i ennill 11 sedd,  Gwyr ro’n i’n hanner disgwyl, ond Dyffryn Clwyd, roedd hynny’n gwbl anghredadwy, a dal sedd fel Gogledd Caerdydd, roedd hynny’n syfrdanol.

“Yr argraff roeddwn i’n ei gael wrth ymgyrchu oedd bod elfen o Geidwadwyr cudd oedd ddim am ddatgan i’r arolygon barn pa ffordd roedden nhw am bleidleisio.

“Roedden nhw’n gweld yn y pen draw sefydlogrwydd yr economi ac [eisiau] rhoi cyfle i David Cameron gwblhau’r gwaith.”

Gyda’r SNP wedi ennill cymaint o seddi yn yr Alban, fodd bynnag, dywedodd Felix Aubel bod angen i’r llywodraeth nesaf ddatganoli rhagor o bwerau i Gymru a’r Alban “heb unrhyw amheuaeth”.

“Mae’r Ceidwadwyr wedi addo rhoi mwy o bwerau i Gymru o fewn 100 diwrnod a dw i’n croesawu hynny,” meddai. “Mae David Cameron wedi sôn am roi mwy o bwerau i’r Senedd yn yr Alban ac fe fuaswn i’n darogan Devo Max i dawelu’r cenedlaetholwyr.”

‘Noson o lwyddiant’

Mae Aelod Cynulliad Plaid Cymru, Simon Thomas, wedi honni bod y blaid wedi cael “noson o lwyddiant” er iddyn nhw fethu ag ennill unrhyw seddau yn yr etholiad cyffredinol.

Daliodd Plaid Cymru eu gafael ar Dwyfor Meirionydd, Arfon a Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr, ond fe fethon nhw a chipio Ynys Môn, Ceredigion a Llanelli.

Fe ddaeth y blaid yn bedwerydd ar draws Cymru i UKIP, ac fe gyfaddefodd Simon Thomas bod methiant i ennill Ceredigion wedi bod yn siom personol iddo.

Ond ceisiodd fynnu bod cynnydd ym mhleidlais Plaid Cymru mewn ardaloedd eraill o Gymru yn arwydd positif ar gyfer y dyfodol.

“Ro’n i yn disgwyl ennill un sedd i fod yn onest, mi wnaethon ni foddi wrth y lan yn Ynys Môn,” medai Simon Thomas.

“Ond mae’n pleidlais ni wedi cynyddu mewn seddi fydd yn bwysig ar gyfer y dyfodol megis Rhondda, Cwm Cynon, Gorllewin Caerdydd.

“Ni wedi gweld dylanwad UKIP ar ein pleidlais ni a’r bleidlais Lafur yn llefydd fel Llanelli … ond fi’n credu bod e’n noson o lwyddiant i Blaid Cymru.”

Ychwanegodd ei fod yn siomedig bod y Blaid Lafur wedi colli cymaint o dir i’r Ceidwadwyr, gan ddweud bod angen sicrhau nad oedd llais Cymru yn cael ei golli yn y tirlun gwleidyddol newydd.

“Bydd pobl yn deffro a sylwi bod Llafur wedi methu ag amddiffyn Cymru na gweddill Prydain rhag llywodraeth Dorïaidd arall,” ychwanegodd.

“Mae’n rhaid i Cameron ddangos ei fod e’n gallu llywodraethu dros y Deyrnas Gyfunol gyfan, achos mae e wedi chwarae gêm beryglus iawn yn ystod yr etholiad yma.”

Cwestiynau i Cameron

Cyfaddefodd cyn-brif weinidog Cymru Alun Michael bod y Blaid Lafur wedi siomi’n fawr â chanlyniadau’r etholiad, wrth iddi edrych yn debygol y bydd David Cameron yn aros yn Downing Street.

Ond fe fynnodd nad Llafur gafodd y noson waethaf, gan gyhuddo strategaeth etholiadol y Ceidwadwyr o wanhau’r Undeb.

“Mae’n noson siomedig iawn i’r Blaid Lafur, i’r Rhyddfrydwyr yn enwedig, ac i Blaid Cymru,” meddai Alun Michael.

“Mae ‘na gwestiynau mawr hefyd i David Cameron ateb ynglŷn â’r ffordd wnaeth o ymateb i’r datblygiadau yn yr Alban a’r effaith mae hynny wedi cael ar yr etholiad.”

Awgrymodd hefyd bod y Ceidwadwyr wedi camarwain pobl mai nhw oedd y blaid i ymddiried ynddo er mwyn gwella’r economi.

“Mae rhai o’r pethau ddaru David Cameron ddweud ynglŷn â thrio rhoi cyfrifoldeb am broblemau’r economi ar ysgwydd y Blaid Lafur a ddim y bancwyr wedi creu amgylchfyd drwg,” ychwanegodd Alun Michael.

“Dw i’n meddwl ei fod o wedi chwarae ar yr holl gwestiwn yma o’r sefyllfa yn yr Alban, a thrio cymryd hyder allan o bobl bod ffyrdd i ddelio â’r problemau yna.”