Mae’r cyflwynydd Alex Jones a’r cerddor Endaf Emlyn ymhlith y rhai fydd yn cael eu derbyn i’r Orsedd yn Eisteddfod Genedlaethol Maldwyn a’r Gororau eleni.

Maen nhw’n cael eu hanrhydeddu am eu “cyfraniad arbennig i Gymru, y Gymraeg ac i’w cymunedau lleol”.

Fe fydd Llywydd Undeb Rygbi Cymru Dennis Gethin a’r gantores werin Siân James hefyd yn cael eu hurddo ar fore Gwener, 7 Awst.

Gwyn, glas a gwyrdd

Mae pob aelod newydd o’r Orsedd yn cael eu derbyn un ai i’r Wisg Werdd neu’r Wisg Las, yn ddibynnol ar faes eu harbenigedd – y Wisg Werdd am gyfraniad i’r celfyddydau a’r Wisg Las am eu gwasanaeth i’r genedl.

Dim ond enillwyr prif wobrau’r Eisteddfod Genedlaethol sy’n cael eu hurddo i’r Wisg Wen, sef y gydnabyddiaeth uchaf, erbyn hyn.