Pontardawe
Mae dynes 32 oed wedi cael ei chyhuddo o geisio llofruddio ei mam wedi ymosodiad difrifol mewn tŷ ym Mhontardawe.

Fe wnaeth Rhian Robinson ymddangos yn Llys Ynadon Pen-y-Bont ar Ogwr ddoe i gael ei chyhuddo o’r drosedd.

Cafodd ei harestio yn wreiddiol ar 14 Ebrill a’i chadw yn yr ysbyty o dan y Ddeddf Iechyd Meddwl.

Fe wnaeth yr heddlu ddarganfod mam Rhian Robinson wedi’i thrywanu yn Heol Gwyrddgoed ac fe gafodd ei chludo i Ysbyty Treforys mewn ambiwlans awyr.

Mae hi bellach wedi gadael yr ysbyty.

Mae’r achos wedi cael ei ohirio tan 25 Mai.