Nepal ar ôl y daeargryn yr wythnos ddiwethaf (llun: PA)
Fe fydd taith gerdded i gopa’r Wyddfa ymhlith gweithgareddau dros y penwythnos nesaf i godi arian at ddioddefwyr y daeargryn yn Nepal.

Mae Penwythnos Antur Eryri yn rhan o ymgyrch Ian Roberts, dringwr profiadol ac adeiladwr cyrsiau rhaff o Lanrwst, i godi arian i allu anfon mil o bebyll yn unionyrchol i Nepal.

“Dw i’n nabod llawer o bobl yn Nepal, a’r bwriad ydi tefnu bod mil o bebyll yn cael eu hanfon atyn nhw o India,” meddai. “Mi fydd Penwythnos Antur Eryri yn codi arian i allu cael mwy o offer a chymorth i lefeydd sydd eu gwir angen.”

Fe fydd gweithgareddau’r penwythnos yn cychwyn ddydd Gwener gyda her Ceri Thomas, cadeirydd Côr Ieuenctid Môn, sydd wedi cytuno i ddringo, gyda help Ian Roberts, naw dringfa i fyny ochr ddwyreiniol Tryfan.

“Mae gen i ofn uchder a dw i erioed wedi dringo yn fy mywyd,” meddai. “Ond mae clywed am ymgyrch Ian wedi fy ysbrydoli i wneud rhywbeth heriol.”

Fe fydd y daith i fyny’r Wyddfa ddydd Sul yn cael ei harwain gan Bedwyr ap Gwyn, sy’n hyfforddwr mynydd profiadol.

“Dim ond y dechrau yw hyn gan y bydd yn cymryd blynyddoedd i Nepal godi ar ei thraed eto – a bydd pob punt yn cael eu gwerthfawrogi,” meddai.

Mae rhagor o wybodaeth am y gweithgareddau ar gael gan Ceri Phillips – phillipsceri32@gmail.com