Y dinistr wedi'r daeargryn yn Nepal yr wythnos ddwiethaf (llun: PA)
Mae elusennau plant yn amcangyfrif fod y daeargryn anferthol yn Nepal wedi difetha plentyndod tua 1.1 miliwn o blant y wlad.

Mae llawer o’r rhain yn ddigartref oherwydd bod eu teuluoedd wedi colli eu cartrefi neu’n rhy ofnus i ddychwelyd iddyn nhw.

Mewn ymateb i’r argyfwng, mae elusennau wedi bod yn darparu pebyll mawr lle mae digon o le i blant chwarae, a lle mae gweithwyr amddiffyn plant yn ceisio eu helpu i ddygymod.

Mae’r elusennau Save the Children, World Vision ac ActionAid wedi codi chwech o bebyll o’r fath dros y penwythnos.

“Mae’r pebyll yma’n rhoi amgylchedd diogel i’r plant, lle gallan nhw chwarae, dysgu a siarad trwy eu profiadau gyda phlant eraill, a lle gallan nhw fod yn blant unwaith eto,” esboniodd Sarah Ireland o Save the Children.

“Mae anghenion emosiynol yn ogystal ag anghenion ymarferol,” meddai Arpanah Rongon o World Vision. “Mae llawer o blant wedi colli popeth pan wnaeth y daeargryn daro. Mae wedi cipio bywydau rhieni a ffrindiau, ac wedi chwalu cartrefi ac ysgolion i’r llawr.

“Mae’r pebyll hyn wedi eu neilltuo i helpu plant ddechrau dygymod â’u colled, gan roi rhywfaint o dawelwch ynghanol yr anhrefn idddyn nhw.”

Mae Pwyllgor Argyfyngau’r Llywodraeth yn dal i apelio am ragor o gyfraniadau i apêl Daeargryn Nepal.