Nicola Sturgeon a Leanne Wood
Mae arweinwyr Plaid Cymru a’r SNP wedi rhybuddio y byddai eu pleidiau’n barod i bleidleisio yn erbyn cyllideb gan lywodraeth Lafur.
Daw hyn wrth i bob arolwg barn awgrymu mai senedd grog yw canlyniad mwyaf tebygol yr etholiad ddydd Iau.
Yn ôl arweinydd Plaid Cymru, Leanne Wood, mae Ed Miliband wedi bod yn drahaus wrth wrthod cynnig o gefnogaeth gan ei phlaid a’r SNP, a phwysodd arno i ailfeddwl ar ôl yr etholiad er mwyn rhwystro llywodraeth Dorïaidd.
“Yr hyn sy’n fy syfrdanu i yw agwedd gwleidyddion Llafur – maen nhw’n cymryd yn ganiataol fod pleidleisiau Plaid Cymru a’r SNP a’r Gwyrddion yn eu poced,” meddai Leanne Wood, mewn cyfweliad ar raglen Today Radio 4 y bore yma.
“Fe fydden ni’n fodlon pleidleisio yn erbyn cyllideb gan Lafur pe byddai’n cyflwyno rhagor o doriadau ar gefnau’r tlodion.
“Os oes ar Lafur eisiau’n cefnogaeth i redeg llywodraeth yn effeithiol, yna mae angen iddyn nhw dderbyn rhai o’r pethau’r ydyn ni’n ei ddweud. Mae’n drahaus ar eu rhan i dybio y gallan nhw gymryd ein pleidleisiau heb gynnig dim byd yn ôl.”
Mae ei sylwadau’n dilyn rhybudd tebyg gan arweinydd yr SNP, Nicola Sturgeon, a ddywedodd mewn dadl deledu yn yr Alban neithiwr y byddai ei phlaid yn barod i wrthod cyllideb na fyddai’n ei hoffi ac yn defnyddio ei grym yn Nhŷ’r Cyffredin i fynnu bargen well.
Gwrthod polisïau ‘Torïaidd’
“Mae Nicola Sturgeon a finnau wedi dweud dros ar ôl tro na fyddai’r un ohonon ni’n gwneud dim byd i gynnal llywodraeth Geidwadol,” meddai Leanne Wood.
“Ond fydden ni ddim yn cynnal llywodraeth Lafur sy’n mynnu dilyn polisïau Torïaidd chwaith ac ni ellir cymryd ein pleidleisiau’n ganiataol.
“Mae’r blaid Lafur wedi cymryd pobl yn ganiataol yng Nghymru ers cymaint o amser ac o ganlyniad yr hyn sydd gennym yw gwasanaethau cyhoeddus sy’n dirywio ac economi sy’n cael ei hesgeuluso.”
Ymgyrchu yng Ngheredigion
Gyda llai na thridiau i fynd at yr etholiad ddydd Iau, fe fydd Leanne Wood yn ymweld ag Aberystwyth heddiw i gefnogi ymgais Plaid Cymru i ailgipio Ceredigion, etholaeth a gollodd yn 2005.
Mewn araith yn y Brifysgol, mae digwyl iddi apelio’n benodol ar i ferched bleidleisio yn yr etholiad a chefnogi gwleidyddion benywaidd fel hi, Nicola Sturgeon ac arweinydd y Blaid Werdd, Natalie Bennet.
Fe fydd hefyd yn ymgyrchu ymhlith myfyrwyr a phobl ifanc yr etholaeth i apelio arnyn nhw i bleidleisio er mwyn sicrhau bod eu lleisiau’n cael eu clywed.