Taron Egerton
Mae stiwdios Fox wrthi’n gweithio ar ail ffilm Kingsman, yn ôl adroddiadau, ar ôl i’r ffilm gyntaf wneud dros $400m yn y sinemâu.

Roedd yr actor ifanc o Aberystwyth, Taron Egerton, yn un o sêr y ffilm fawr eleni ochr yn ochr â Colin Firth, Samuel L Jackson a Michael Caine.

Yn ôl gwefan The Wrap mae llwyddiant Kingsman eisoes wedi annog y stiwdio ffilmiau i ystyried gweithio ar ail ffilm, ac mae’r cyfarwyddwr Matthew Vaughn wedi dweud wrth USA Today ei fod yn “meddwl am syniadau” eisoes.

Ond does dim cadarnhad eto ynglŷn â phwy fydd cast y ffilm newydd, na phryd y gallai fod yn y sinemâu.

Eddie’r Eryr

Mae Taron Egerton wedi dod yn wyneb cyfarwydd i lawer o bobl ar draws y byd ers chwarae rhan yr ysbïwr ifanc Eggsy yn Kingsman, gafodd ei rhyddhau yn gynharach eleni.

Ar hyn o bryd mae’r Cymro wrthi’n ffilmio ar gyfer ffilm newydd am Eddie the Eagle, y sgïwr adnabyddus a gystadlodd yng Ngemau Olympaidd y Gaeaf Calgary 1988.

Taron Egerton sydd yn chwarae rhan Eddie, gyda Hugh Jackman yn actio rôl yr hyfforddwr sgïo a Matthew Vaughn yn cyfarwyddo.

Dyw hi ddim yn glir felly pryd y gallai’r actor a’r cyfarwyddwr fod yn rhydd i weithio gyda’i gilydd ar ffilm Kingsman newydd.

Mae’r llanc 25 oed o Aberystwyth hefyd wedi dweud y byddai’n hoffi ystyried chwarae rhan actio yn y Gymraeg rhywbryd yn y dyfodol.