Castell Aberteifi
Mae Ymddiriedolaeth Cadwgan wedi cyhoeddi y bydd y cyngerdd cyntaf i’w gynnal yng Nghastell Aberteifi ers iddo agor yn ddiweddar “yn noson arbennig i arddangos talent Cymru” gyda rhai o feirdd amlycaf Cymru yn ymddangos.

Yn dilyn beirniadaeth chwyrn yn ddiweddar dros roi’r prif le i fand gwerin o Loegr,  Bellowhead, yng nghyngerdd ail-agor Castell Aberteifi ym mis Gorffennaf, mae’r trefnwyr wedi dweud y bydd Cyngerdd Beirdd a Chantorion ar 25 Mehefin yn “dathlu diwylliant Cymru.”

Bydd yn dod â beirdd a cherddorion  gorllewin Cymru at ei gilydd, gyda’r mezzo-soprano, Eirlys Myfanwy Davies, a’r bariton, Deiniol Wyn Rees, yn ymuno â’r delynores, Claire Jones ar gyfer y cyngerdd.

Cafodd y cyngerdd ailagor ym mis Gorffennaf ei feirniadu gan Gyfeillion Rhys ap Gruffudd yn ddiweddar, pan lansiodd Hefin Wyn  ddeiseb yn cwestiynu gwahodd band Bellowhead i’r cyngerdd: “Nid mynegi anniddigrwydd ynghylch grŵp oherwydd iaith eu caneuon a wneir ond ceisio tynnu sylw at arwyddocâd hanesyddol a diwylliannol yr achlysur penodol.

“Weithiau mae yna rinwedd yn yr apêl at hanes. Mae yna reswm penodol dros alw 1176 i gof yn y fan hyn. Nid gig arall mo’r achlysur.”

Mae’r cyhoeddiad gan Ymddiriedolaeth Cadwgan yn awgrymu eu bod yn ymateb i ofnau’r Cyfeillion trwy ymfalchïo yn y talentau o Gymru sy’n cymryd rhan, ynghyd â’r arwyddocâd hanesyddol.

Dywed y trefnwyr: “Dyma unigolion sydd wedi bod yn llwyddiannus mewn amrywiaeth o eisteddfodau a byddant yn sicrhau y bydd awyrgylch hudolus Eisteddfod wreiddiol yr Arglwydd Rhys, a gynhaliwyd i ddathlu cwblhau ei gastell carreg yn 1176, yn cael ei ail-greu.”

Bydd corau lleol yn cymryd rhan, dan arweiniad cyfarwyddwr cerdd y digwyddiad, Rhys Taylor, gydag  enillydd Cadair yr Eisteddfod Genedlaethol y llynedd a’r bardd enwog o Aberteifi, Ceri Wyn Jones, yn ymuno â’i gyd-feirdd, Tudur Dylan ac Emyr Davies, i ddiddanu’r gynulleidfa rhwng yr eitemau cerddorol.

Cynhelir  cyngerdd dathlu yn dilyn agoriad ffurfiol gyda Phrif Weinidog Cymru, Carwyn Jones, a noddwyr a phartneriaid y Castell, a fydd yn ymweld â’r safle hanesyddol am y tro cyntaf ers i’r prosiect adfer gwerth £12m gael ei gwblhau ym mis Ebrill eleni.

‘Gwreiddio mewn traddodiad’

Dywedodd Cris Tomos, llefarydd ar ran Castell Aberteifi: “Bydd y digwyddiad arbennig hwn wedi’i wreiddio yn y traddodiad a gychwynnodd yma yn y Castell yn 1176, a bydd yn cynnwys talent ifanc a ffres sy’n llwyddiannus ar lwyfan yr Eisteddfod heddiw. Mae’n addas ein bod yn dathlu cwblhau castell yr Arglwydd Rhys gyda noson o gerddoriaeth a barddoniaeth, gan roi llwyfan i’r cyfoeth talent sydd ar garreg ein drws.”

‘Balchder’

Ychwanegodd Ceri Wyn Jones, bardd ac enillydd Cadair Eisteddfod 2014: “Fel crwt lleol, mae gen i edmygedd mawr o’r gwaith sydd wedi sicrhau bod Castell Aberteifi ar ei draed eto. Ac mae cael perfformio o fewn ei waliau yn destun balchder.

“Rwy’n mawr obeithio fod y cyngerdd dathlu hwn – sy’n ein hatgoffa ni o statws cenedlaethol a rhyngwladol rhai o’n doniau lleol –  hefyd yn brawf o ymroddiad hirdymor i’r iaith Gymraeg a’i diwylliant cyfoes, cyffrous a chyfoethog fel presenoldeb canolog ym mywyd y Castell.”

Mae’r tocynnau ar gyfer Cyngerdd Beirdd a Chantorion ar 25 Mehefin 2015 yn mynd ar werth o heddiw ymlaen. Y prisiau yw £15 a £12 (consesiynau). Ewch i mwldan.co.uk neu ffonio 01239 621 200.