Porth Eirias ym Mae Colwyn
Mae’r cogydd Bryn Williams wedi dweud ei fod “yn falch” o weld bod 75 o bobol wedi ymgeisio am swyddi newydd yn ei fwyty fydd yn agor ym Mhorth Eirias, Bae Colwyn yn yr haf.
Mae 25 o swyddi llawn a rhan amser yn cael eu hysbysebu ac fe gafodd diwrnod o gyfweliadau ei gynnal ddoe.
Dyma fydd bwyty cyntaf y cogydd yng Nghymru.
Yn dilyn y cyfweliadau, dywedodd partner busnes Bryn Williams, David Owen: “Mae hi wedi bod yn ddiwrnod da iawn. Roeddwn i a Bryn yn falch hefo’r ceisiadau am swyddi.”
Ar ôl misoedd o ddyfalu ac oedi mawr gyda’r adeiladu, mae disgwyl i’r bwyty agor ym mis Mehefin.