Mae’r heddlu wedi cyhoeddi enw dyn 44 oed o fu farw mewn damwain ffordd ger pentref Pontsticill ger Merthyr Tudful ddeuddydd yn ôl.

Fe wnaeth car Audi A4 Steven Wickens o Heol Llwyfen ym Merthyr wyro oddi ar y ffordd am tua 11:48 yr hwyr, ar nos Fawrth,  28 Ebrill.

Cafodd tri pherson arall oedd yn y car fan anafiadau a’u cludo i Ysbyty’r Tywysog Charles ym Merthyr.