Purfa Murco yn Aberdaugleddau
Mae disgwyl i “gyfleoedd arwyddocaol” ddeillio o werthiant purfa olew Murco yn  Aberdaugleddau i gwmni ynni Puma y mis diwethaf, yn ôl Gweinidog yr Economi, Edwina Hart.

Cafodd y safle, oedd yn arfer cyflogi tua 400 o bobol, ei werthu ar 14 Mawrth – bedwar mis wedi i gytundeb arall fynd i’r gwellt. Bydd Puma yn ei ddefnyddio fel cyfleuster storio.

Yn y cyfamser, dywedodd Edwina Hart bod 57% o’r gweithwyr a gollodd eu gwaith wedi dod o hyd i swyddi newydd.

Cydweithio

Yn dilyn cyfarfod olaf Tasglu Murco, dywedodd Edwina Hart: “Rwy’n falch iawn o groesawu’r buddsoddiad hwn gan Puma i Gymru; hon yw eu menter gyntaf yn y Deyrnas Unedig.

“Yn hynny o beth, mae yma gyfleoedd arwyddocaol i gydweithio â Puma a phartneriaid cyflenwi eraill gan ddefnyddio’r rhwydwaith a grëwyd gan dasglu Murco i wneud yn fawr o’r cyfleoedd economaidd hirdymor i’r rhanbarth.

“Mae Sir Benfro yn rhan hanfodol o economi Cymru ac wrth edrych tua’r dyfodol byddwn yn parhau i weithio’n ddiflino gyda Bwrdd Ardal Fenter Dyfrffordd y Ddau Gleddau a phartneriaid cyflawni eraill i sicrhau’r manteision gorau i’r economi yn y dyfodol a pharhau i helpu pobl i gael hyd i swyddi.”