Llys y Goron Casnewydd
Mae rheithgor yn achos dyn o Gwmbrân, sydd wedi’i gyhuddo o lofruddio ei wyres bum wythnos oed, wedi dechrau ystyried eu dyfarniad.

Bu farw Amelia Jones ym mis Tachwedd 2012 ar ôl cael gwaedlif ar ei hymennydd ac anaf i’w phenglog.

Mae ei thaid, Mark Jones, 45, yn gwadu ei llofruddio.

Clywodd y rheithgor yn Llys y Goron Casnewydd bod Mark Jones wedi gollwng Amelia Jones ddwywaith – unwaith ar ôl iddo faglu ar degan, a’r ail waith ar ôl iddo lewygu wrth warchod y babi yn nhŷ ei mam ym Mhontnewydd – ond na roddodd o wybod i’r parafeddygon am hynny.

Mae’r erlyniad yn honni bod Jones yn casau tad Amelia ac wedi dweud celwydd wrth ei ferch, Sarah Jones, ei fod yn dioddef o ganser.

Ar ol crynhoi’r achos, fe wnaeth y Barnwr Wyn Williams annog y rheithgor i gytuno ar ddyfarniad unfrydol.