Leanne Wood
Fel rhan o gynlluniau Plaid Cymru i greu “pwerdy grym” yng ngogledd Cymru, mae arweinydd y blaid, Leanne Wood, wedi rhoi addewid i godi trydedd bont dros afon Menai a thrydaneiddio prif lein ar hyd arfordir y gogledd.

Wrth annerch cynulleidfa ym Mhrifysgol Bangor, amlinellodd Leanne Wood gynllun tri-phwynt i fuddsoddi mewn isadeiledd, cyflwyno prifddinasoedd Cymreig, a deddfu i sicrhau cyfleoedd i bob rhan o Gymru.

Dywedodd: “Mae’r cynllun hwn yn seiliedig ar flaenoriaethu buddsoddiad isadeiledd yn y gogledd megis trydaneiddio prif lein gogledd Cymru, adeiladu trydedd bont dros y Fenai, gwella prif ffyrdd a chyflwyno band-eang cyflym.”

Fel rhan o’r “pwerdy grym”, mae gan Blaid Cymru gynlluniau i neilltuo prifddinasoedd crwydrol a pharhaol sy’n canolbwyntio ar elfennau penodol o arbenigedd.

Gweledigaeth

Mae Plaid Cymru am efelychu modelau sy’n bodoli’n barod er mwyn creu canolfannau arbenigol, fel yr eglurodd Leanne Wood: “Ein gweledigaeth yw i ganolfannau poblogaeth ledled Cymru ac yn enwedig yn y gogledd  elwa o fod yn brif ddinasoedd ar gyfer y celfyddydau neu gyllid er enghraifft ar sail barhaol neu grwydrol gan efelychu Dinas Diwylliant y DU neu fel y model Ffrengig, ble fo trefi a rhanbarthau yn ennill enwogrwydd am fod yn gartref i feysydd arbenigedd penodol neu o bwysigrwydd cenedlaethol sylweddol.”

Ychwanegodd, “Drwy agor cyfleoedd i drefi a dinasoedd led-led Cymru, gallwn wella siawns ein holl gymunedau i elwa o lwyddiant cenedlaethol Cymru.”