Mike Houlston, ei fab Noah a Jess Evans Llun: Cambrensis
Mae rhieni’r rhoddwr organau ieuengaf ym Mhrydain wedi disgrifio sut y gwnaethon nhw’r penderfyniad torcalonnus i roi arenau eu mab yn dilyn ei farwolaeth 100 munud ar ôl cael ei eni.

Roedd Jess Evans a’i dyweddi Mike Houlston o Gaerdydd yn disgwyl efeilliaid ond fe glywodd y cwpl bod gan un o’r babis gyflwr prin ac angheuol sy’n atal yr ymennydd a’r penglog rhag datblygu.

Clywodd y cwpl y byddai eu babi yn debygol o farw yn fuan ar ôl cael ei eni.

Ond roedd y cwpl yn benderfynol y byddai bywyd eu mab yn cael ei gofio ac fe wnaethon nhw’r penderfyniad i roi ei arennau a falfiau ei galon fel y gallai arbed bywydau eraill.

‘Arwr’

Cafodd yr efeilliaid Teddy a  Noah Houlston eu geni flwyddyn yn ôl, ond bu farw Teddy ar ôl 100 munud yn unig. Roedd ei arennau wedi achub claf oedd yn dioddef o fethiant yr arennau.

Wrth siarad â’r Daily Mirror, dywedodd Mike Houlston bod ei fab yn “arwr” ac ychwanegodd “mae’n amhosib esbonio pa mor falch ydan ni ohono.”

‘Ysbrydoli’

Dywedodd Jess Evans: “Rydan ni’n gobeithio y bydd stori Teddy yn ysbrydoli teuluoedd sydd yn yr un sefyllfa o golli plentyn. Mae gwybod bod rhan o berson rydych chi’n ei garu yn parhau i fyw mewn person arall yn rhoi cysur i ni.”

Mae ystyried babi newydd yn rhoddwr organau yn anarferol iawn a Teddy yw’r rhoddwr organau ieuengaf yn y DU.

Meddai Jess Evans: “Mae’n gymorth mawr i ni i wybod ei fod wedi helpu rhywun arall ac wedi helpu meddygon i sylweddoli ei fod yn bosib i fabis bach fod yn rhoddwyr organau ac mae’n rhywbeth rydym ni am weld yn digwydd.”

‘Prinder organau’

Mae Gweinidog Iechyd Cymru Mark Drakeford wedi canmol y cwpl am eu “dewrder” wrth wneud y penderfyniad.

“Mae ’na brinder organau, a dros y degawd diwethaf dim ond 10 o roddwyr organau yng Nghymru oedd o dan 18 oed.

“Rwy’n gobeithio y bydd rhoi organau Teddy yn annog rhagor o bobl i ystyried rhoi organau er mwyn achub bywydau eraill.”

O 1 Rhagfyr eleni, bydd y gyfraith rhoi organau yn newid. Bydd meddygon yn cymryd yn ganiataol bod pobl dros 18 oed sydd wedi bod yn byw yng Nghymru am fwy na 12 mis yn fodlon rhoi eu horganau ar ôl marw, os nad ydyn nhw’n dweud fel arall.