Llys y Goron Merthyr
Fe fydd dau ddyn sy’n cael eu cyhuddo o lofruddio dyn 42 oed yn Nhonypandy, Rhondda Cynon Taf yn ymddangos o flaen Llys y Goron Merthyr heddiw.

Bu farw Wayne Letherby ar ôl ymosodiad difrifol  yn Stryd De Winton, Tonypandy yn hwyr nos Wener, 17 Ebrill.

Roedd Dean James Doggett, 26, a Jamie Leyshon, 26,  wedi ymddangos gerbron Llys Ynadon Pontypridd ddoe.

Mae dyn a dynes a gafodd eu harestio mewn cysylltiad â’r digwyddiad wedi cael eu rhyddhau ar fechnïaeth tra bod ymchwiliad yr heddlu’n parhau.

Mae Heddlu’r De yn parhau i apelio am wybodaeth. Dylai unrhyw sydd gwybodaeth gysylltu â’r heddlu ar 101 gan nodi’r rhif cyfeirnod 1500134148 neu Taclo’r Taclau’n ddienw ar  0800 555 111.