Fe fydd milwyr a chyn-filwyr yn derbyn cefnogaeth gwerth £100,000 yn sgil arian sydd wedi’i gyhoeddi gan Lywodraeth Cymru heddiw.
Bydd yr arian yn mynd at elusen Veterans NHS Cymru, yr unig wasanaeth yng ngwledydd Prydain sy’n rhoi sylw arbennig i iechyd emosiynol a meddyliol cyn-filwyr drwy gynnig therapyddion ym mhob bwrdd iechyd.
Mae’r arian ychwanegol yn dilyn buddsoddiad o £485,000 gan Lywodraeth Cymru’r llynedd er mwyn datblygu’r gwasanaethau cymorth.
Mae mwy na 1,100 o gyn-filwyr wedi derbyn cymorth gan Veterans NHS Cymru ers iddi gael ei sefydlu yn 2010.
‘Gwasanaeth unigryw’
Mewn datganiad, dywedodd y Dirprwy Weinidog Iechyd, Vaughan Gething: “Rydym wedi ymroi’n llwyr i gefnogi aelodau’r lluoedd arfog a chyn-filwyr yng Nghymru.
“Mae Veterans NHS Cymru yn wasanaeth unigryw – y cyntaf o’i fath yn y DU – sy’n cynnig gofal a chefnogaeth arbenigol ar gyfer anghenion penodol iawn cyn-filwyr.”
Ychwanegodd fod disgwyl i’r gwasanaeth drin mwy o filwyr yn ystod y blynyddoedd i ddod oherwydd toriadau i’r lluoedd arfog.
Yn ôl arolwg a gafodd ei gomisiynu gan y Gweinidog Iechyd Mark Drakeford, roedd defnyddwyr gwasanaethau’r elusen wedi cael boddhad o gael mynediad i’r gwasanaethau.
Ond nifer cymharol fach o fenywod a milwyr sydd wedi gadael y lluoedd arfog yn gynnar sydd wedi ceisio mynediad i’r gwasanaethau.
Fe ddangosodd yr arolwg fod angen rhoi mwy o sylw i gyn-filwyr sydd wedi cael eu carcharu ers gadael y lluoedd arfog.