Ken Skates
Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi ei fod yn neilltuo £1 miliwn ar gyfer y diwydiant twristiaeth yng Nghymru.
Dywedodd y Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth, Ken Skates, y bydd yr arian ar gael trwy’r Gronfa Ymgysylltu Twristiaeth Ranbarthol i gynnal prosiectau twristiaeth ym mhedwar rhanbarth Cymru.
Yn 2014, cymeradwyodd Croeso Cymru fwy na £420,000 ar gyfer prosiectau ym mhob rhan o Gymru gan gynnwys gweithgareddau fel marchnata, datblygu cyrchfannau, gwella sgiliau, rheoli cronfeydd data, ymgysylltu a helpu partneriaethau.
Bydd y ffocws eleni ar sicrhau bod y gefnogaeth yn cyd-fynd â thema arbennig yn dilyn lansiad y syniad o gyfres o flynyddoedd thematig gan Ken Skates. Bydd y blynyddoedd thematig yn dechrau gyda’r Flwyddyn Antur yn 2016.
Bydd themâu’r dyfodol yn cael eu dewis i hyrwyddo cryfderau mwyaf Cymru a bydd gweithgareddau, digwyddiadau ac atyniadau yn cael eu cynnal fydd yn canolbwyntio ar beth sydd gan dwristiaeth Cymru i’w gynnig.
‘Cyfle unigryw’
Meddai’r Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth, Ken Skates: “Mae Cronfa Ymgysylltu Twristiaeth Ranbarthol yn caniatáu i gyrff a busnesau lleol i weithio trwy’r bartneriaeth rheoli cyrchfannau i nodi’r hyn sydd ei angen fwyaf ar ymwelwyr â’r ardal a beth fyddai’n gwneud y gyrchfan yn fwy atyniadol i ymwelwyr.
“Bydd Blwyddyn Antur 2016 yn gyfle unigryw i hybu mwy o gydweithio rhwng rhanddeiliaid, cyrchfannau a’r diwydiant twristiaeth. Bydd yr arian yn sicrhau bod Blwyddyn Antur 2016 yn llwyddiant ac yn rhoi Cymru ar y map fel cyrchfan gwych ar gyfer anturiaethau.
“Rwy’n gobeithio’n fawr y gall Awdurdodau Lleol, y sector preifat a’r trydydd sector ddod ynghyd i feddwl am brosiectau llawn dychymyg ar gyfer y flwyddyn nesaf.”
Y dyddiad cau ar gyfer cynigion yw 8 Mai 2015 a dylid cyflwyno ffurflenni cais i RegionalTourism@Wales.GSI.Gov.UK