Fe fydd ymchwiliad yn cael ei gynnal wedi i dros 620 o danau gwair bwriadol gael eu cynnau yn ne Cymru dros yr 20 diwrnod diwetha’, cyhoeddodd y Gwasanaeth Tân ac Achub.

Ers 1 Ebrill mae 623 o danau bwriadol wedi cael eu cynnau – sydd ar gyfartaledd  yn fwy na 30 o danau’r diwrnod.

Dros y penwythnos, cafodd y gwasanaeth eu galw i 156 o danau bwriadol, gyda 137 o’r rheiny wedi eu cynnau yn fwriadol.

Roedd diffoddwyr tân yn brysur unwaith eto y bore ‘ma o ganlyniad i danau ar Fynydd Machen ger Caerffili a Mynydd Nantgwyddon ger pentref Gelli.

Rhondda Cynon Taf – 242 o danau

Cafodd y ffigyrau eu darparu gan bennaeth rheoli Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru Jennie Griffiths.

Dywedodd ar trydar mai’r ardaloedd lle mae’r nifer fwyaf o danau wedi bod oedd Rhondda Cynon Taf (242 o danau), Caerffili (96), Blaenau Gwent (78), Pen-y-Bont ar Ogwr (65), Merthyr Tudful (50) a Chasnewydd (29).

Mae’n gofyn i unrhyw un sydd â gwybodaeth am y digwyddiadau i gysylltu â Taclo’r Taclau ar 0800 555 111.