Mae teyrngedau wedi’u rhoi i gricedwr o India fu farw yn dilyn damwain yn ystod gêm i’w glwb.

Roedd Ankit Keshri, 20, yn maesu fel eilydd yn Kolkata ddydd Gwener pan darodd yn erbyn un o’i gyd-chwaraewyr tra’n ceisio dal y bêl.

Cafodd ei gludo i’r ysbyty lle dioddefodd drawiad ar y galon yn gynharach heddiw.

Ar wefan Twitter, dywedodd cyn-gapten tîm cenedlaethol India, Sachin Tendulkar: “Yn drist am golli Ankit Keshri. Gyrfa addawol wedi dod i ben oherwydd digwyddiad anffodus ar y cae. Boed i Dduw roi nerth i deulu a ffrindiau Ankit i ymdopi â’r golled hon.”

Dywedodd y chwaraewr rhyngwladol presennol, Ajinkya Rahane: “Trist iawn o ddod i wybod am Ankit Keshri. Nerth i’w deulu a’i ffrindiau.”

Dywedodd un arall o gyn-chwaraewyr India, Manoj Tiwary: “Wedi cael sioc o glywed y newyddion am golli chwaraewr dan 19 o Bengal o’r enw Ankit Keshri o ganlyniad i drawiad ar y galon. Fy nghydymdeimlad dwysaf gyda theulu a ffrindiau Ankit Keshri.”

Ychwanegodd Tiwary fod Keshri yn “chwaraewr addawol oedd wedi sgorio cymaint o rediadau ar lefel dan 19 oed ac mae’n sicr y byddai wedi chwarae i dîm Bengal ymhen dwy flynedd.”

Daw marwolaeth Keshri bum mis wedi i fatiwr agoriadol Awstralia, Phillip Hughes farw yn dilyn ergyd i’w wddf tra’n batio yn Sydney.

Roedd munud o dawelwch cyn y gêm rhwng Kolkata Knight Riders a’r Delhi Daredevils yn yr IPL y prynhawn yma.