Mae bachgen 15 oed gafodd ei arestio yn dilyn honiadau o ymosodiad rhywiol ar ferch yng Nghaerfyrddin wedi cael ei ryddhau ar fechnïaeth.
Dywedodd yr heddlu eu bod yn ymchwilio i’r digwyddiad ym mwyty McDonalds, Pensarn, ddigwyddodd am tua 10:00 fore Sul.
Cafodd y bwyty ei gau am bedair awr yn dilyn y digwyddiad.
Mae Heddlu Dyfed-Powys yn cynnig cymorth i’r ferch a’i theulu ac mae’r ymchwiliad yn parhau.