Mae pryder y bydd swyddi’n cael eu colli yn un o gwmnïau teledu mwyaf Caernarfon.
Mae hyn ar ôl i weithwyr Cwmni Da gael llythyr yn eu rhybuddio y bydd rhai swyddi’n diflannu.
Ar hyn o bryd, mae’r cwmni’n cyflogi 65 o bobl o’i ganolfan newydd yn Noc Victoria yn y dref.
Dros y blynyddoedd mae’r nifer o swyddi teledu yng Nghaernarfon wedi crebachu wrth i fwy a mwy o swyddi gael eu colli i Gaerdydd a lleoedd eraill yn y de.
Ergyd arall i’r diwydiant teledu yn y dref yn ddiweddara oedd methiant ymgyrch Cyngor Gwynedd ac eraill i ddenu S4C i symud i Gaernarfon. Penderfyniad S4C flwyddyn yn ôl oedd symud i Gaerfyrddin.