Ed Miliband a Leanne Wood ar ddiwedd y ddadl deledu nos Iau (llun y BBC)
Ailadrodd pwysigrwydd teuluoedd sy’n gweithio y bydd arweinydd Llafur, Ed Miliband, mewn ymweliad â Chymru heddiw.
“Mae’r Torïaid wedi cefnu ar deuluoedd sy’n gweithio oherwydd eu bod nhw wedi dewis rhoi blaenoriaeth i ychydig ar y top,” meddai.
“Mae cynllun Llafur yn seiliedig ar wirionedd syml: Mae Prydain a Chymru’n llwyddo pan fo teuluoedd sy’n gweithio yn llwyddo.
“Dim ond dau ganlyniad sy’n bosibl ar 7 Mai – Llywodraeth Lafur a fydd yn gweithio gyda Llywodraeth Lafur Cymru i gyflawni dros gymunedau lleol, neu Lywodraeth Dorïaidd a fydd yn parhau gyda’u cynlluniau gwario eithiafol.”
Yn y cyfamser, mae arweinydd Plaid Cymru, Leanne Wood, wedi bod yn ôl yn ei chartref yn y Rhondda i ledaenu neges ei phlaid.
Banciau bwyd
“Mae effeithiau llymder ar gymunedau fel Treorci yn boenus o amlwg,” meddai.
“Yr oedd nifer y bobl a orfodwyd i gael bwyd yn y Rhondda trwy fanciau bwyd llynedd dros 2,000. Nid yw hynny’n ffigwr anarferol am fanciau bwyd yng Nghymru. Digon yw digon; allwn ni ddim mynd ymlaen fel hyn.
“Mae pobl yng Nghymru wedi cael llond bol ar y toriadau. Maent wedi eu siomi hefyd gan fod y Blaid Lafur yn cefnogi yn ddi-gwestiwn werth £30 biliwn arall o doriadau fel a nodwyd yn siarter llymder y Torïaid am y Senedd nesaf.
“Mae Plaid Cymru, gyda’n penderfyniad i sicrhau cydraddoldeb cyllid gyda’r Alban i ddwyn i mewn £1.2 biliwn bob blwyddyn, yn cynnig dewis clir i’r agenda o doriadau sy’n cael ei hyrwyddo gan ymgeiswyr yn gwisgo rosetiau coch a glas yn yr etholiad hwn.”