Carwyn Jones yw'r Prif Weinidog efo cyfrifoldeb neilltuol am y Gymraeg yn Llywodraeth Cymru
Mae golwg360 wedi cael ar ddeall bod ffynhonnell ariannol ar gyfer prosiect i godi hyder pobl sydd ddim yn hyderus yn eu Cymraeg wedi dod i ben.

Bwriad cynllun ‘Mae dy Gymraeg di’n Grêt’ oedd cynnig gweithgareddau yn y Gymraeg drwy’r mentrau iaith i annog pobl sydd ddim fel arfer yn defnyddio’r iaith i roi cynnig arni.

Ond fe gadarnhaodd Llywodraeth Cymru bod eu cytundeb tair blynedd gwerth £120,000 i ariannu’r prosiect bellach wedi dod i ben, a’i fod heb gael ei adnewyddu.

Ychwanegodd llefarydd ar ran y llywodraeth fodd bynnag y byddai “amcanion” y cynllun yn parhau yn rhan o waith cyrff fel y Mentrau Iaith a Chymraeg i Oedolion.

Dim mwy o arian

Mae annog defnydd o’r Gymraeg y tu allan i’r ystafell ddosbarth ac ymysg siaradwyr llai rhugl a hyderus wedi bod yn un o brif amcanion y Prif Weinidog Carwyn Jones.

Fel rhan o gynllun ‘Mae Dy Gymraeg di’n Grêt’ byddai gweithgareddau amrywiol drwy gyfrwng y Gymraeg gan gynnwys rhai celf, coginio a hamdden yn cael eu cynnig i oedolion.

Er bod disgwyl i rai o weithgareddau’r cynllun barhau, cyfaddefodd Llywodraeth Cymru na fydd arian ychwanegol yn cael ei ddosbarthu i gynnal y prosiect.

“Daeth y drefn o ariannu prosiect Mae dy Gymraeg di’n Grêt drwy gontract tair blynedd i ben ar 31 Mawrth 2015,” meddai llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru.

“O Ebrill 2015 ymlaen bydd y gwaith hwn yn cael ei brif-ffrydio i weithgarwch craidd cyrff amrywiol eraill a ariennir gan Lywodraeth Cymru yn cynnwys Cymraeg i Oedolion a’r Mentrau Iaith.

“Mae’r gwaith hwn yn rhan greiddiol o fwriad Llywodraeth Cymru i ddatblygu ac adeiladu ar weithgarwch presennol i mewn i raglen gynhwysfawr i hyrwyddo’r defnydd o’r Gymraeg ymhlith teuluoedd, fel yr amlinellwyd yn y datganiad polisi a gyhoeddwyd ym mis Awst 2014, Bwrw Mlaen.”

Wedi anelu at rieni

Roedd cytundeb tair blynedd ‘Mae dy Gymraeg di’n Grêt’ werth £118,593, ac yn cael ei redeg gan ganolfan gynllunio ieithyddol Iaith Cyf. mewn ardaloedd yn ne-orllewin Cymru rhwng 2012 a 2015.

Fe ddywedodd Mentrau Iaith Cymru nad oedden nhw’n ymwybodol fod cyllid y prosiect wedi dod i ben.

Ond yn ôl Cydlynydd Cenedlaethol Mentrau Iaith Cymru, Emily Cole, roedd gwaith y prosiect wrth geisio annog rhieni oedd wedi colli defnydd o’u Cymraeg yn hollbwysig.

“Bydde fe’n golled fawr a dweud y gwir,” cyfaddefodd Emily Cole.

“Mae e’n dalcen caled achos bod rhieni sydd wedi colli’r Gymraeg yn grŵp targed anodd i weithio gyda nhw, ond unwaith ‘dych chi yn dechrau gweithio gyda nhw ‘dych chi’n gweld y newid yn yr unigolyn.”

Pryder am ‘israddio’

Wrth ymateb i’r newyddion, fe fynegodd Cymdeithas yr Iaith bryder bod hyn yn arwydd fod yr iaith Gymraeg yn cael ei hisraddio yn sgil toriadau i gyllideb y llywodraeth.

“Mae’r newyddion hyn yn destun cryn bryder, ac yn syndod, yn enwedig gan ystyried ffocws y Prif Weinidog ar ddefnydd iaith o fewn y teulu,” meddai Cen Llwyd o Gymdeithas yr Iaith.

“Mae trosglwyddiad iaith a’i defnydd ymysg rhieni a phlant yn faes allweddol. Mae ’na berygl y bydd y pwyslais ar y mater yma yn cael ei israddio wrth i’r rhaglen ddod i ben.

“Mae effaith llymder yn golygu torri yn ôl ar brosiectau fel hyn, ac mae’n hollbwysig bod pawb felly yn gwrthwynebu’r agenda toriadau. Rydyn ni’n parhau i alw ar Lywodraeth Cymru bedryblu ei buddsoddiad yn y Gymraeg, yn unol ag argymhelliad ei ‘Chynhadledd Fawr’ ei hun.”