Guto Bebb
Mae ymgyrch y Ceidwadwyr i ddal eu gafael ar sedd ymylol Aberconwy dan fygythiad ar ôl iddi ddod i’r amlwg bod ffrae fewnol danllyd wedi digwydd rhwng yr ymgeisydd Guto Bebb a chadeirydd y blaid yn lleol.

Mewn e-byst ymfflamychol sydd wedi cael eu gweld gan golwg360, mae cadeirydd Cymdeithas Ceidwadwyr Aberconwy yn gwneud cyfres o sylwadau beirniadol o ymgyrch Guto Bebb ac yntau’n ymateb trwy alw’r cadeirydd yn “idiot”.

Dywedodd y Cadeirydd, Garry Burchett, na fyddai’n cefnogi ei ymgyrch i geisio cael ei ailethol ar 7 Mai gan ei gyhuddo o gynnal ymgyrch trosto ef ei hun, yn hytrach na thros ei blaid.

Yn ei e-bost ola’ yn y gyfres, mae Guto Bebb, sy’n AS ers 2010 ac yn byw yng Nghaernarfon, yn galw Garry Burchett yn “disgrace”.

Mae’r e-byst, gafodd eu hanfon yr wythnos hon, hefyd yn awgrymu hefyd bod tyndra rhwng Guto Bebb a Janet Finch-Saunders, Aelod Cynulliad y Ceidwadwyr dros Aberconwy.

‘Plaid Guto Bebb’

Mewn e-bost tanllyd at Guto Bebb, cyhuddodd Garry Burchett yr ymgeisydd dros Aberconwy o beidio â dangos digon o deyrngarwch i’w blaid – roedd yn ymateb i e-bost cynharach gan Guto Bebb yn beirniadu’r Cadeirydd am beidio â chynorthwyo’i ymgyrch.

Dywedodd Gary Burchett ei fod wedi treulio 18 mis yn “gwneud esgusodion” ynglŷn â pham nad oedd Guto Bebb yn defnyddio “brand y Ceidwadwyr”, yn “byw yn yr etholaeth” nac yn “cefnogi ei Aelod Cynulliad”.

Mynnodd fod yr ymgeisydd yn credu ei fod yn sefyll dros “Blaid Guto Bebb” yn hytrach na’r Ceidwadwyr, bod ei “falchder” yn ei ddallu, a’i fod yn rhy benstiff i wrando ar gyngor eraill.

Ychwanegodd Garry Burchett bod Guto Bebb “wedi ein twyllo ni i gyd”, ac na fyddai’n cefnogi ei ymgyrch i gael ei ailethol yn Aelod Seneddol – er na fyddai’n gwneud dim i danseilio’r Ceidwadwyr.

Cyngor Lynton Crosby

Wrth ymateb i e-bost Garry Burchett, mae Guto Bebb yn ei alw’n “dwpsyn” ac yn “warth”.

Mae hefyd yn dweud ei fod wedi cael cyngor gan brif strategydd y Ceidwadwyr, Lynton Crosby, i “werthu fy hun nid y blaid”.

Mae’n ychwanegu bod y Ceidwadwyr yn talu Lynton Crosby miliwn o bunnau’r flwyddyn am eu cynghori nhw yn ystod yr etholiad, gan herio Garry Burchett i ddweud a yw e’n “gwybod yn well”.

Y cefndir

Rhan o’r cefndir yw gwrthdaro cynharach pan oedd Guto Bebb wedi gwneud araith yn y Senedd yn cam-gyhuddo un o’i etholaeth o bardduo’i enw. Mae Gary Burchett yn cyfeirio at hynny …

“[Rydych chi wedi twyllo] pawb heblaw am ambell un, sydd wedi gweld drwy eich gemau pitw a’ch dadleuon chi gyda’r rheiny oedd yn methu ymladd nôl, eich camddefnydd o’r fraint seneddol, a’r ffaith eich bod chi’n gwrthod derbyn pan oeddech chi’n anghywir,” meddai Gary Burchett yn yr e-bost.

“Wel, Mr Bebb, gadewch i mi ddweud wrthych chi nawr. Efallai bod gennych chi gefnogaeth y Gymdeithas diolch i’r ffordd mae’r aelodau wedi cael eu trin gan rai pobl.

OND. Rydw i’n bendant NAD OES GENNYCH fy nghefnogaeth i fel Cadeirydd.”

‘Barn fy hun’

Ar ddiwedd ei e-bost i Guto Bebb, mae Gary Burchett yn rhybuddio’r ymgeisydd Ceidwadol na ddylai “pobl mewn tai gwydr daflu cerrig”, gan bwysleisio mai ei farn ei hun oedd yn y neges.

Ond pan gysylltodd golwg360 â Gary Burchett i’w holi am y negeseuon, gwrthododd wneud unrhyw sylw. Ond, er iddo gael cyfle i wadu bodolaeth yr e-byst, wnaeth e ddim o hynny,

Mynnodd nad oedd wedi ffraeo â Guto Bebb, ond fe ddywedodd ei fod “yn bryderus” bod y negeseuon wedi dod i sylw golwg360.

Mae’r e-bost gan Garry Burchett i Guto Bebb hefyd wedi cael ei anfon at gyfeiriad e-bost swyddogol Andrea Stephenson, Cyfarwyddwr Ymgyrch Ardal Gogledd a Chanolbarth Cymru i’r Ceidwadwyr.

Mae golwg360 wedi cysylltu â Guto Bebb i holi am ei ymateb yntau ac wedi gadael sawl neges yn ei swyddfa ac ar ei ffôn symudol.

Stori: Iolo Cheung