Pen yn teimlo’n boeth ar ôl bwyta tsili, dyn oedd wedi blino a pherson oedd yn cael trafferth cerdded oherwydd swigod ar y traed – dyma rai o’r galwadau 999 diangen wnaeth Gwasanaeth Ambiwlans Cymru ei dderbyn dros gyfnod o saith mis.

Yn ôl y gwasanaeth, fe wnaethon nhw ateb 19,151 o alwadau nad oedd yn rhai brys yn y saith mis rhwng mis Awst 2014 a Chwefror 2015.  Dim ond 318 ohonynt oedd angen ambiwlans a doedd dim un o’r galwadau hynny wedi arwain at gludo cleifion i’r ysbyty.

Nawr mae Gwasanaeth Ambiwlans Cymru yn rhybuddio yn erbyn ffonio 999 oni bai ei fod yn argyfwng go iawn gan ddweud y gall galwadau o’r math yma roi bywydau pobl mewn perygl.

Roedd enghreifftiau eraill o alwadau diangen yn cynnwys rhywun gydag annwyd, un arall gyda phoen yn ei gefn, a rhywun oedd eisiau gwaith ar ei ddannedd.

‘Angenrheidiol’

Dywedodd Richard Lee, pennaeth Gwasanaethau Clinigol Ymddiriedolaeth Ambiwlans Cymru y gall llawer o’r galwadau diangen olygu bod ambiwlans ddim ar gael i ymateb i alwadau brys fel trawiad ar y galon, damwain car neu strôc.

Meddai:  “Mae’r Ymddiriedolaeth yn cymryd camau i sicrhau fod cleifion ddim ond yn teithio i’r ysbyty pan fydd hynny’n gwbl angenrheidiol.

“Er bod y rhan fwyaf o alwadau a dderbyniwn drwy 999 yn gwbl briodol, rydym hefyd yn cymryd rhai sydd ddim yn hanfodol.

“Cofiwch na  ddylai rhywun ffonio 999 mewn achos brys sy’n bygwth bywyd, os yw rhywun yn ddifrifol wael neu wedi’u hanafu neu eu bywyd mewn perygl.”

Yn hytrach, mae’r Gwasanaeth Ambiwlans yn awgrymu ymweld â meddyg teulu neu ffonio rhif cymorth y GIG ar 0845 46 47 os dyw rhywun ddim yn siŵr beth i’w wneud.