Prosiect gwaith rhyw myfyrwyr (Prifysgol Abertawe)
Bydd ffilm ddrama ddogfen am fyfyrwyr sy’n gweithio yn y diwydiant rhyw yn cael ei ddangos ym Mhrifysgol Bangor wythnos nesa.
Mae ‘Fog of Sex’ wedi cael ei hymchwilio, ei chynhyrchu a’i ffilmio yn gyfan gwbl gan staff, graddedigion a myfyrwyr Ysgol Ffilm Casnewydd. Mae hi wedi ei chyfarwyddo gan yr enillydd gwobr BAFTA a gwneuthurwr ffilmiau dogfen, Christopher Morris.
Mae’r ffilm, sydd wedi cymryd tair mlynedd i’w gwneud, yn ail-greu straeon a phrofiadau naw o weithwyr rhyw benywaidd sy’n ceisio cydbwyso Addysg Uwch gyda bywyd fel gweithiwr rhyw.
Cafodd y ffilm ei gwneud fel rhan o Brosiect Myfyrwyr sy’n Weithwyr Rhyw ym Mhrifysgol Abertawe. Mae’r prosiect yn un tair blynedd sydd wedi’i ariannu gan Gronfa’r Loteri Fawr.
Mae’r astudiaeth yma’n cynnig, am y tro cyntaf, gwybodaeth penodol i ymwneud a myfyrwyr sy’n rhan o’r diwydiant rhyw ar lefel cenedlaethol.
Mi fydd canlyniadau yr astudiaeth yn ganolog ar gyfer cynnig a chreu sustemau i gefnogi myfyrwyr addysg uwch yn y DU.
Bydd ‘Fog of Sex’ yn cael ei dangos yn Theatr MALT, Prifysgol Bangor, am 7:00, nos Fercher 15 Ebrill.