Mike Parker, ymgeisydd seneddol Plaid Cymru yng Ngheredigion
Mae’r Blaid Lafur wedi galw ar ymgeisydd seneddol Plaid Cymru dros Geredigion, Mike Parker i gamu o’r neilltu.

Daeth i’r amlwg fod Mike Parker wedi gwneud sylwadau am fewnfudwyr o Loegr mewn erthygl yn Planet yn 2001. Mae ei sylwadau yn cael sylw yn y Cambrian News yr wythnos hon.

Mae’r Blaid wedi amddiffyn yr ymgeisydd, gan ddweud ei fod yn sylweddoli bod ei sylwadau’n “amhriodol”.

Mewn datganiad ar ei dudalen Facebook, dywedodd Mike Parker ei fod yn cyfeirio at leiafrif o bobol hiliol oedd wedi symud i Gymru er mwyn “dianc rhag cymunedau amlddiwylliannol mewn mannau mwy trefol”.

Dywedodd na fyddai’n defnyddio’r fath iaith erbyn hyn, ond ei fod “o’r farn o hyd na ddylid anwybyddu na derbyn hiliaeth”.

Yn yr erthygl yn 2001, dywedodd Parker: “I ryw raddau, daeth Cymru wledig bellach yn ateb Prydain i’r mynyddoedd Americanaidd, sy’n gartref i ddyrnaid o theoriwyr cynllwynio paranoid, hurtynnod Ateb Terfynol yn cario dryllau a phobol sydd ag obsesiwn gwrth-lywodraeth.

“Eu prif reswm dros adael y dinasoedd Seisnig yw ffoi rhag y gymdeithas amlddiwylliannol, rhag pobol ddu ac Asiaidd yn benodol, ac maen nhw’n gweld Cymru wledig, gyda’i phoblogaeth wen yn bennaf yn hafan ddiogel.”

‘Gwrthwynebu hiliaeth’

Wrth alw am ddisodli Mike Parker, dywedodd ymgeisydd Llafur Huw Thomas: “Ni ddylai fod lle yn ein gwleidyddiaeth na’n cymdeithas ar gyfer y fath iaith gasineb sydd yn gallu achosi rhwyg.”

Mewn datganiad, dywedodd llefarydd ar ran Plaid Cymru: “Roedd [Mike Parker] yn ymateb i sylwadau negyddol a bychanol a glywodd ar y pryd fel rhywun oedd wedi symud i Geredigion o Kidderminster.

“Mae Mike wedi gwrthwynebu hiliaeth a neilltuo mewn modd ffyrnig iawn ac yn yr erthygl yma, roedd yn mynegi pryder am agweddau hiliol roedd wedi dod ar eu traws.”

Rhagor o ymateb i’r stori hon yma.