Mae poteili o fodca ffug, a all wneud yfwyr yn ddall, wedi’u canfod mewn siop y gornel ym Maesteg.

Fe glywodd Llys Ynadon Pen-y-bont ar Ogwr sut yr oedd cynnyrch glanhau wedi’u hychwanegu at y fodca ffug oedd ar werth yn Picton Stores, Maesteg.

Mae’r siopwr, Mahesh Patel, wedi cyfadde’ prynu’r poteli gan ddyn oedd wedi dweud wrtho fod y gwirod yn iawn i’w yfed.

Mae Mr Patel wedi’i ddedfrydu i wisgo tag ar ei goes am chwe mis ac i gadw cyrffiw gyda’r nos. Mae hefyd wedi’i orchymyn i dalu cyfanswm o £1,686 o gostau.