Miliwn o siaradwyr Cymraeg, dyna’r nod y dylai pleidiau’r Cynulliad gynnwys yn eu maniffestos ar gyfer etholiad 2016, yn ôl ymgyrchwyr iaith.

Dywedodd Cymdeithas yr Iaith bod angen gosod her “uchelgeisiol” wrth iddyn nhw roi syniadau at ei gilydd ar gyfer ei maniffesto nhw.

Dros y misoedd nesaf, bydd y mudiad yn mynd ati i drafod argymhellion gyda mudiadau ac arbenigwyr ynghylch sut orau y gellid symud tuag at gyrraedd y targedau canlynol yn ystod tymor nesaf y Cynulliad.

‘Gweledigaeth’

Wrth egluro’r amcanion, dywedodd is-gadeirydd Cymdeithas yr Iaith, Mared Ifan: “Mae hwn yn ryw fath o weledigaeth gennym ni ar gyfer y pleidiau a Llywodraeth Cymru nesaf o 2016 ymlaen sy’n gosod tri tharged canolog:

  1. I gynyddu nifer y siaradwyr i filiwn;
  2. I gynnal cymunedau a chreu cyfleoedd i ddod a siaradwyr Cymraeg sydd wedi gadael y wlad i ddod yn ôl i Gymru;
  3. Sicrhau bod y Gymraeg yn cael ei defnyddio ym mhob rhan o fywyd.”

Yn ôl Mared Ifan, cyn-lywydd Undeb Myfyrwyr Cymraeg Aberystwyth, mae’r nod o filiwn o siaradwyr Cymraeg yn “realistig”.

Ychwanegodd: “Mae’n uchelgeisiol ond mae’n gyraeddadwy ac yn rhywbeth sy’n bositif. Yn aml iawn pan mae Cymry’n siarad am yr iaith mae e wastad am y ffaith ein bod yn crebachu a bod yr iaith yn marw’n araf bach.

“Ond mae Cymdeithas eisiau rhoi datganiad mawr mas i ddweud ein bod yn gwrthod crebachu a’n bod ni eisiau cynyddu nifer y siaradwyr Cymraeg. Mae miliwn am ddenu sylw’r pleidiau a rheiny ar lawr gwlad, gobeithio.”

‘Sgandal’

Dywedodd hefyd bod yna “gyfle euraidd” i ddylanwadu ar y Llywodraeth wrth iddi lunio  ei Strategaeth Iaith newydd.

“Mae’n hymgyrchoedd ers canlyniadau’r Cyfrifiad wedi dwyn ffrwyth i ryw raddau,” meddai Mared Ifan. “Rydyn ni wedi gweld treth cyngor uwch ar ail gartrefi, newidiadau i’r system gynllunio a dileu’r cwrs byr TGAU ail iaith.

“Ond tameidiog mae’r datblygiadau hyn wedi bod, mae gwir angen Llywodraeth gyda syniadau ffres.
“Heb amheuaeth bydd sôn am addysg fel un o’r arfau grymus sydd gennym i sicrhau ffyniant yr iaith. Ar hyn o bryd mae 79% o’n plant yn gadael addysg heb y gallu i  gyfathrebu a gweithio drwy’r Gymraeg, mae hynny’n sgandal.

“Mae’r Athro Sioned Davies wedi amlinellu ffordd ymlaen, ac rydyn ni aros i’r pleidiau gwleidyddol ymateb i’r cynigion mae hi wedi amlinellu.”