Y safle yn Nhrecŵn ger Abergwaun
Mae cynllun i godi gorsaf Biomas yn Nhrecŵn ger Abergwaun wedi cael ei gymeradwyo’n unfrydol gan bwyllgor cynllunio Cyngor Sir Penfro heddiw.

Bydd yr orsaf gwerth £80 miliwn ar hen safle storfa arfau’r Llynges Frenhinol.

Bwriad y perchnogion, The Valley (Pembrokeshire) Ltd, yw codi gorsaf i losgi pren a fyddai’n cynhyrchu 25MW o drydan.

Fe allai 45 o swyddi parhaol gael eu creu gan y cynllun, a 250 o swyddi adeiladu dros dro.

Mae disgwyl y bydd yn cymryd dwy flynedd a hanner i gwblhau’r orsaf

Roedd cefnogaeth unfrydol i’r cynllun ond roedd Cyfeillion y Ddaear yn credu na fyddai’r orsaf yn ddigon effeithlon ac y byddai’n gwastraffu bron i dri chwarter yr egni mae’n ei gynhyrchu ar ffurf gwres gwastraff.